Mwy o Newyddion
Gwasanaethau Cymraeg cudd ddim yn denu sylw defnyddwyr
Yn aml nid yw siaradwyr Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg oherwydd diffyg ymwybyddiaeth am y gwasanaethau hynny, yn ôl ymchwil newydd gan Dyfodol Defnyddwyr.
Gwnaeth yr ymchwil*, sy’n rhan o brosiect ehangach sy’n edrych ar sut wasanaethau Cymraeg yr hoffai defnyddwyr eu derbyn, hefyd ganfod y gall siaradwyr Cymraeg fod â diffyg hyder mewn safon gwasanaethau Cymraeg.
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos:
Dymuniad i ddefnyddio gwasanaethau yn Gymraeg lle fo’r gwasanaethau hynny’n hawdd i’w defnyddio.
Disgwyliadau isel o wasanaethau Cymraeg ar y cyfan.
Mae cynnig rhagweithiol o wasanaeth Cymraeg yn annog defnydd o wasanaethau Cymraeg tra bod siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n lletchwith yn gofyn am wasanaeth Cymraeg.
Mae siaradwyr Cymraeg yn dymuno derbyn sicrwydd ynghylch ansawdd gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael.
Wrth drafod y canfyddiadau hyn, dywedodd Rhys Evans, Cyfarwyddwr Cymru Dyfodol Defnyddwyr: “Gwyddwn yn sgil ymchwil blaenorol bod siaradwyr Cymraeg eisiau defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg. Ar yr un pryd, mae darparwyr gwasanaethau wedi cyfeirio at ddefnydd îs na’r disgwyl o rhai gwasanaethau Cymraeg.
"Mae ein hymchwil ni’n awgrymu nad yw gwasanaethau Cymraeg yn aml wedi eu darparu mewn ffordd sy’n annog defnydd ohonynt.
"Gall hyn arwain at rwystredigaeth ymysg defnyddwyr sy’n teimlo nad yw gwasanaethau’n cwrdd â’u hanghenion iaith, ac ar gyfer darparwyr sy’n profi defnydd îs na’r disgwyl o’u gwasanaethau Cymraeg.
"Enghraifft o hyn yw sefydliadau’n cynhyrchu cynnwys Cymraeg ar eu gwefannau ac yna’n cuddio’r ddolen at y cynnwys hwnnw mewn rhywle anelwig ar yr hafan, neu’n cyflogi person dwyieithog yn bwrpasol i wasanaethu’r cyhoedd heb ddwyn sylw defnyddwyr at sgiliau Cymraeg y person.
"Canfyddiadau cychwynnol yn unig yw’r rhain ac fe awn ati rwan i gynnal ymchwil mwy eang i’r materion hyn. Gobeithiwn y bydd y dystiolaeth a gesglir dros y misoedd nesaf o gymorth i wella gwasanaethau Cymraeg yn y dyfodol, er mwyn eu bod yn cwrdd yn well ag anghenion siaradwyr Cymraeg a bod darparwyr yn gweld ymwybyddiaeth a defnydd uwch o’u gwasanaethau Cymraeg.”
Llun: Rhys Evans