Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2014

Cig Oen Cymru ar y fwydlen yng nghystadleuaeth Tŷ Cyrri'r Flwyddyn

Bydd Cig Oen Cymru yn cael sylw mawr wrth i ben-cogyddion ledled Cymru baratoi i dynnu dŵr o'r dannedd wrth gystadlu i geisio bod yn Dŷ Cyrri'r Flwyddyn 2014.

Mae'r gystadleuaeth yn ei hwythfed flwyddyn erbyn hyn, ac mae gan dros 300 o dai bwyta Indiaidd yng Nghymru gyfle i gystadlu a chipio'r wobr arbennig. Mae modd pleidleisio ar hyn o bryd, a bydd cyfle i ddal i wneud hynny tan 16 Chwefror.

“Mae'n teimlo fel mai dim ond ddoe y dechreusom ar ein taith i chwilio am y tai cyrri gorau yng Nghymru, ond mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ac rwy wastad ar bigau'r drain pan fo'r gystadleuaeth yn cael ei lansio bob blwyddyn,” meddai Niaz Taj o Cyrri Cymru / Welsh Curry, sy'n trefnu'r gystadleuaeth.

"Cafwyd 13,000 o bleidleisiau'r llynedd a chredaf y byddwn yn derbyn mwy byth o bleidleisiau yn 2014 oherwydd mae pobl Cymru'n gwirioni ar fwyd Indiaidd," meddai .

“Mae'r gystadleuaeth yn gyfle gwych hefyd i ben-cogyddion dawnus i arddangos sut mae modd defnyddio cynnyrch gorau Cymru a'i gyfuno â'r cynhwysion gorau a ddefnyddir i greu prydau bwyd Indiaidd. Eleni, am y tro cyntaf, gall y cyhoedd fwrw pleidlais dros ben-cogyddion unigol oherwydd mae gennym gystadleuaeth Pen-cogydd Cyrri'r Flwyddyn yng Nghymru,” ychwanegodd Niaz Taj.

Un o'r noddwyr yw Hybu Cig Cymru (HCC): Dywedodd ei Gadeirydd, Dai Davies: “Rydym wrth ein bodd o fod yn gysylltiedig â chystadleuaeth Tŷ Cyrri'r Flwyddyn yng Nghymru.

“Cyrri yw un o hoff fwydydd y genedl, ac mae ansawdd y prydau sy'n cael eu gweini yn y prif dai bwyta o amgylch Cymru yn eithriadol o uchel. Dyna pam rydym yn ymfalchïo taw Cig Oen Cymru yw'r prif gynhwysyn yn y prydau bwyd a fydd yn cael eu paratoi yn y gystadleuaeth boblogaidd hon.”

Mae modd pleidleisio rhwng 10 Ionawr a 16 Chwefror er mwyn penderfynu pa dŷ bwyta sydd orau ym mhob un o'r tri rhanbarth wrth ymweld â www.welshcurry.co.uk

Cyhoeddir enwau'r 30 o dai bwyta sydd ar y rhestr fer ddydd Iau 20 Chwefror. Yna rhaid i bob un o'r rhain greu cyrri Cig Oen Cymru arbennig i'w roi ar eu bwydlenni er mwyn ei farnu rhwng 24 Chwefror a 21 Mawrth.

Bydd beirniaid rhanbarthol annibynnol yn ymweld â phob un o'r 30 tŷ bwyta sydd ar y rhestr fer. Cyhoeddir enwau'r tri thŷ bwyta gorau yng Nghymru – un o bob rhanbarth – ddydd Gwener 4 Ebrill.

Bydd y beirniaid cenedlaethol yn treulio diwrnod cyfan ym mhob un o'r tri bwyty sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Cyhoeddir yr enillydd cenedlaethol yn ystod digwyddiad arbennig ddydd Llun 28 Ebrill 2014.

Bengal Spices yn Llanymynech enillodd cystadleuaeth 2013

Rhannu |