Mwy o Newyddion
'Rhaid i’r Llywodraeth edrych ar frys ar bob opsiwn i gynnig help gyda stormydd’
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol (DG) i edrych ar bob opsiwn er mwyn helpu adfer ardaloedd fel Ceredigion yn dilyn y difrod a wnaed gan y stormydd, gan gynnwys defnyddio mesur argyfwng Ewropeaidd, sef Cronfa Cydsafiad yr Undeb Ewropeaidd.
Dywed Jill Evans y dylai buddiannau ein cymunedau ddod yn gyntaf ac na ddylai llywodraeth y DG anwybyddu unrhyw ffynhonnell po ariannu a allai helpu adfer ac ailadeiladu.
Roedd Jill Evans ASE yn Aberystwyth heddiw i edrych ar y difrod a achoswyd gydag ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru ar gyfer Ceredigion, Mike Parker, ac fe ddywedodd hithau ei fod yn hanfodol i chwilio am gymorth posib angenrheidiol o’r Gronfa Cydsefyll.
Dywedodd Jill Evans ASE: “Mae maint y difrod yma yn Aberystwyth yn arswydus ac estynnaf fy nghydymdeimlad gyda’r holl deuluoedd a busnesau hynny sydd yn dioddef canlyniadau hyn. Ar adeg yr argyfwng yma, mae’n rhaid i ni ymchwilio i bob opsiwn posib er mwyn helpu gydag adferiad ac ailadeiladu, gan gynnwys Cronfa Cydsafiad yr UE.
"Sefydlwyd y gronfa yn dilyn y llifogydd difrifol a gafwyd yng nghanolbarth Ewrop yn ystod haf 2002 . Ei nod yw helpu gwledydd i ymateb yn gyflym i drychinebau naturiol fel hyn. Dyma un o fuddion bod yn aelod o’r UE.
“Cafodd dros €160 miliwn ei ddyfarnu i’r DG yn 2007 yn dilyn llifogydd mawrion a thra bo hyn wedi digwydd yn Lloegr gan fwyaf, fe dderbyniodd rhai cartrefi a busnesau a effeithiwyd yng Nghymru arian o’r gronfa. Dylai’r Llywodraeth fod yn edrych yn fanwl ar bob ffordd o wneud hyn yn ystod y cyfnod anodd iawn yma i bobl yng Ngheredigion ac mewn cymunedau eraill ar yr arfordir.
"Mae hi hefyd yn fater o frys oherwydd bod yn rhaid i gais gael ei dderbyn gan y Comisiwn Ewropeaidd o fewn deg wythnos o’r dyddiad y cafwyd y difrod cyntaf a achoswyd gan y trychineb. Rwy’n annog llywodraeth y DG i edrych i mewn i hwn heb oedi.
"Dim ond Llywodraeth y DG (fel yr aelod wladwriaeth) all wneud cais. Does dim modd i Lywodraeth Cymru na’r Awdurdod Lleol wneud cais, er y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth y gall i ddarbwyllo Llywodraeth y DG i ymgeisio, yn ogystal â siarad yn uniongyrchol â’r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â graddfa’r niwed a ddioddefwyd. Dylai’r Llywodraeth roi ei rhagfarn ynglŷn ag Ewrop i’r naill ochr a rhoi ein cymunedau’n gyntaf.
“Ni wnaed unrhyw gyfeiriad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru tuag at gael cymorth posib gan yr Undeb Ewropeaidd pan ofynnwyd iddo yn Nhŷ’r Cyffredin Ddydd Mercher, felly bydd angen i ni sicrhau nad ydyn nhw wedi hepgor yr opsiwn hwn. Ar hyn o bryd dyw Llywodraeth y DG ddim yn cynnig unrhyw ariannu ychwanegol.
“Does yna ddim sicrwydd y cawn unrhyw arian gan yr UE ond yn ystod adeg o argyfwng fel hwn, mae angen arnom y math o gydsefyll ac undod rydym ninnau wedi ei gynnig i nifer o wledydd yn Ewrop pan oedd ei angen arnynt fwyaf."