Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Ionawr 2014

Cymhellion newydd i annog y graddedigion mwyaf galluog i fynd yn athrawon pynciau blaenoriaeth

MAE’R Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi cyhoeddi y bydd cymhellion ariannol newydd o hyd at £20,000 ar gael i’n graddedigion mwyaf galluog sydd â’u bryd ar hyfforddi i addysgu pynciau blaenoriaeth megis mathemateg, ffiseg a chemeg yng Nghymru.

Graddedigion cymwys sydd â gradd dosbarth cyntaf fydd yn cael y grant mwyaf wrth gychwyn ar gyrsiau fel athrawon dan hyfforddiant yn 2014/15, gyda’r grant yn lleihau fesul cam ar gyfer y rheini sydd â gradd 2.1 a 2.2. Ni fydd grant ar gael i raddedigion nad oes ganddynt o leiaf gradd 2.2.

Bydd cymhellion blaenoriaeth ganolig hyd at £15,000 yn cael eu cynnig i’r rheini sy’n arbenigo yn y Gymraeg, ieithoedd tramor modern a TGCh. Bydd grant o £3,000 ar gael i’r rheini sydd â gradd dosbarth cyntaf sy’n astudio ar gyfer addysgu ar lefel uwchradd, ôl-radd neu gynradd.

Bydd tâl atodol pellach o £2,000 ar gael i raddedigion y mae ganddynt radd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg, Saesneg neu fathemateg pan fyddant yn dilyn cwrs addysgu cynradd i raddedigion, er mwyn codi’r safonau mewn llythrennedd a rhifedd a chydnabod arbenigedd pwnc yn y pynciau cynradd craidd.

Dywedodd Huw Lewis: “Rydyn ni’n awyddus i annog ein graddedigion mwyaf galluog i hyfforddi i addysgu yng Nghymru, a’u helpu i wneud hynny. Dyna pam rydyn ni’n cynnig y cymhellion hyn ar gyfer y flwyddyn 2014/15.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar bynciau uwchradd sydd o flaenoriaeth y mae graddedigion yn arbenigo ynddynt, gan ein bod yn awyddus i recriwtio’r graddedigion gorau.

“Bydd y cymhellion hyn yn parhau i wella ansawdd Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru drwy annog y graddedigion mwyaf galluog, sydd ag arbenigedd pwnc ar lefel uchel, i fynd yn athrawon.”

Rhannu |