Mwy o Newyddion
'Am wastraff arian ac amser' - Neges Cymdeithas yr Iaith at Gyngor Ceredigion
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Ceredigion o wastraffu arian ac amser gyda ffug brosesau ymgynghori sydd at bwrpas "ticio blychau" yn unig.
Erbyn Ddydd Llun nesaf daw ymgynghoriad i ben ar bapur y Cyngor ynghylch creu Ysgol newydd yn Llandysul, a'r wythnos ganlynol daw ymgynghoriad i ben ar gynnig y Cyngor i gau Ysgol Dihewyd.
Mae'r Gymdeithas yn honni mai mynd trwy gamau gwag y mae'r Cyngor wrth honni ymgynghori a'u bod yn gwneud canllawiau'r Llywodraeth yn destun gwawd.
Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis "Mae canllawiau'r llywodraeth ar ad-drefnu ysgolion yn mynnu fod Cyngor yn asesu pob ateb amgen cyn cynnig cau ysgol.
"Wrth hybu o hyd ei awydd i gau pob ysgol o fewn milltiroedd i Landysul a chreu un ffatri hyfforddiant ganolog, mae'r Cyngor yn trin dewis amgen 'cydweithredu ar aml-safle' trwy ddweud y byddai '5 safle yn anodd eu rheoli' ac y byddai 'Cyrff Llywodraethol a Chyllid ar wahân'.
"Mae hyn yn gwbl anghywir gan fod Rheoliadau'r Lywodraeth (2012) ar ffedereiddio rhwng Ysgol Uwchradd a'r ysgolion cynradd cychwynnol yn datgan yn gwbl glir y rheolir 5 ysgol ffederasiwn o'r fath gan un Bwrdd Llywodraethol, a bod hawl gan y llywodraethwyr i gronni'r cyllidebau yn un gronfa er mwyn rhesymoli.
"Beth yw pwynt proses ymgynghori pan roddir y wybodaeth anghywir i bobl leol?
"Eto mae'r Asesiad Effaith Iaith (sydd hefyd yn ofynnol yn ôl canllawiau'r Llywodraeth) ar gau Ysgol Dihewyd yn dod i'r casgliad chwerthinllyd y byddai cau'r ysgol yn gadarnhaol i'r Gymraeg!
"Derbynnir yn gyffredinol nad yw rhieni ifainc yr un mor barod i ymgartrefu mewn pentre heb ysgol na gwasanaethau a bod cau ysgol yn bygwth y gymuned bentrefol Gymraeg.
"Ond mae astudiaeth y Cyngor yn casglu mai'r unig ffactor yw fod y plant yn cael eu hanfon i ffwrdd at ysgol arall sy'n Gymraeg a bod yna fwy o ddisgyblion Cymraeg a bod hyn o fudd i Ddihewyd fel cymuned Gymraeg.
"Daw casgliadau di-synnwyr fel hyn gan mai biwrocratiaid sy'n creu'r adroddiadau yn hytrach na'u seilio ar brofiadau pobl oddi fewn i'w cymunedau.
"Dyma wneud y canllawiau yn destunau gwawd. Ond fe wyddom yn iawn na bydd y llywodraeth yn poeni dim gan mai eu hagenda yw cau ysgolion pentrefol, ac mae'r swyddogion yn gwybod nad oes arian gan bentrefwyr i herio'r ymgynghoriadau annilys mewn llysoedd.
"O ganlyniad mae Ceredigion yn colli rhagor o bentrefi Cymraeg, a phobl yn mynd yn sinigaidd ac yn colli ymddiried pobl mewn prosesau democrataidd. Gofynnwn beth yw diben gwastraffu arian ac amser ar ymgynghoriadau ac adroddiadau diwerth o'r fath?"