Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Ionawr 2014

Galw am ailgylchu llawn

Mae Plaid Cymru'n galw ar gyngor Abertawe i adfer cyfleusterau ail-gylchu llawn yn ei brif safleoedd gwastraff.

Mae'r darpar ymgeisydd Cynulliad Abertawe Dr Dai Lloyd wedi gofyn i'r cyngor sicrhau ailgylchu gwastraff polystyren yn y pum safle gwaredu gwastraff cartrefi sydd gan Abertawe.

"Hyd yn ddiweddar, bu modd i bobl ddod â'i gwastraff polystyren i'w ailgylchu yng nghanolfan Clun yn Heol Derwen Fawr Road, Sgeti", meddai Dr Lloyd mewn llythyr i Brif Weithredwr y cyngor, Jack Straw.

"Ond yn gynharach eleni, fe ddaeth y trefniant yma i ben a bellach rhaid ei ddympio yn y sgip tirlenwi neu fynd ag ef i'r safle yn Llansamlet.

" Er fy mod yn deall bod y safle yn Sgeti yn cael ei ailwampio, ni ddylai hynny fod ar draul cyfleusterau allweddol.

"Mae gwaredu gwastraff polystyren yn fater o bwys amgylcheddol mawr, gan nad yw'n torri i lawr yn fiolegol ", meddai Dr Lloyd yn ei lythyr.

"Yn sgil gwyliau'r Nadolig, mae'n lled debyg y bydd pobl yn dod â llawer o'r gwastraff hwn i safleoedd y ddinas neu ei roi ar y stryd i'w gasglu - ond fel y saif pethau ar hyn o bryd fe aiff y rhan fwyaf yn syth i safle tirlenwi.

"Ond fe ellir ailgylchu polystyren i nifer o ddibenion da. Fe elli ei ail-fowldio’n nwyddau polystyren newydd - a'i ailgylchu'n gynhyrchion cwbl newydd, megis dodrefn gerddi, tiliau to, defnyddiau adeiladu ac eitemau plastig megis cloriau ar gyfer CDs.

"Fe garwn i weld Abertawe'n mabwysiadu'r nod o ennill clod fel yr ardal fwyaf gwerdd yng Nghymru ac yn gosod siampl dda i ardaloedd eraill."

Llun: Dai Lloyd

Rhannu |