Mwy o Newyddion
Miliwn o Gymry'n wynebu blwyddyn newydd anodd
Bydd toriadau o bron i £600m. mewn budd-daliadau yng Nghymru yn ergyd greulon i tua miliwn o bobl sy’n sâl, yn ddi-waith neu ar gyflogau isel, rhybuddiodd un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn ei neges Flwyddyn Newydd.
Wrth wynebu’r sefyllfa yma, rhaid i bawb ymdrechu i barchu a helpu’r sawl sydd mewn angen, meddai’r Parchg Ron Williams, Llwydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
“Eleni, bydd anogaeth Iesu am i ni drin eraill fel y byddem ninnau am gael ein trin mor berthnasol ag erioed,” meddai.
“Nid lleiafrif bach fydd yn ddioddef,” meddai’r Parchg Ron Williams, “mae’n debyg y bydd tua miliwn o bobl Cymru yn gweld gostyngiad yn eu hincwm oherwydd y newidiadau mewn Budd-daliadau a Chredyd Treth Gwaith wrth i’r drefn newydd ddod i rym o ddifri.
"Dyma unigolion a theuluoedd sydd eisoes yn ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd. Ar ben hyn, ofnir y gallai’r toriadau llym mewn gwariant gan Gynghorau Sir effeithio’n andwyol ar y gofal sydd ei angen ar bobl oedrannus a bregus.
“Yn y fath hinsawdd, bydd angen rhoi sylw arbennig i’r sawl sydd mewn argyfwng. Yn aml, mae tueddiad anffodus i fychanu’r tlawd a’r anghenus. Rhaid dangos parch a bod yn barod i wrando ar eu cri.
"Ond bydd angen gweithredu hefyd i’w helpu mewn ffyrdd ymarferol trwy waith yr eglwysi ac elusennau eraill. Does dim dwywaith y bydd baich sylweddol fwy yn syrthio ar ysgwyddau mudiadau gwirfoddol eleni ac am flynyddoedd i ddod. Fel Cristnogion, rhaid i ni godi i’r her o wneud gwaith Crist yn ein cymunedau heddiw trwy rym ei Ysbryd ef.”