Mwy o Newyddion
01 Ebrill 2011
Karen Owen
Cri o’r galon gan olygydd
MAE gwaith golygydd yn mynd yn anos oherwydd bod safon iaith ysgrifenwyr yn gwaethygu. Dyna farn Alan Llwyd, golygydd y cylchgrawn barddoniaeth, Barddas.
Yn ei erthygl olygyddol faith yn rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn, ac yna ar raglen Wythnos Gwilym Owen ar Radio Cymru brynhawn Llun, bu’n rhestru’r camgymeriadau gramadegol sy’n britho gwaith pobol sy’n eu galw eu hunain yn ‘ysgrifenwyr’ ac sy’n gwneud ei waith o’n llawer mwy llafurus nac y bu.
Dros y deng mlynedd ar hugain y bu’n golygu llyfrau, meddai Alan Llwyd, mae safon iaith yn “mynd yn is ac yn is trwy’r amser”. Cri o’r galon ydi ei erthygl olygyddol ddiweddaraf, meddai wedyn.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA