Mwy o Newyddion
Gwirfoddolwch gyda ChildLine yn y Flwyddyn Newydd
Mae ChildLine wedi cyhoeddi ffigurau sy’n dangos mai nid dim ond plant sy’n elwa. Mae gwirfoddolwyr yn cael mwy nag yr oeddent wedi’i ddisgwyl o ganlyniad i wirfoddoli, gyda 77.2% yn dweud bod ganddynt fwy o hyder yn eu galluoedd a 64.9% yn dweud eu bod wedi teimlo mwy o hunan-barch. Mae mwy na hanner y gwirfoddolwyr (54.8%) wedi profi cynnydd yn eu lles emosiynol.
Mae’r darganfyddiadau’n cael eu cyhoeddi gan ChildLine wrth i’r gwasanaeth lansio ei ymgyrch Addunedau Blwyddyn Newydd, sy’n gofyn i aelodau’r cyhoedd yn Ngogledd Cymru wneud adduned sy’n cyfrif a chynnig eu hamser i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wir angen eu help.
Gall pobl yng Ngogledd Cymru gefnogi drwy wirfoddoli mewn dwy ffordd; naill ai yn y ganolfan gwnsela ym Mhrestatyn neu fel gwirfoddolwr Gwasanaeth Ysgolion mewn ysgolion cynradd yn y ardal.
Fel Gwirfoddolwr Llinell Gymorth ChildLine; byddwch yn treulio pedair awr neu fwy yr wythnos yn helpu i gynnig cyngor a chymorth cyfrinachol i blant a phobl ifanc o dan 18 oed, naill drwy’r llinell gymorth 24 awr neu ar-lein ar y gwasanaeth e-bost a sgwrsio 1-2-1 sy’n hynod boblogaidd.
Dywedodd gwirfoddolwyr ChildLine, Dave Taylor: “Mae ChildLine yn achubiaeth i rai pobl ifanc pan nad oes ganddynt neb arall i siarad â nhw. O’m rhan i, mae gallu rhoi rhywfaint o’m hamser i siarad â phobl ifanc sy’n cael amser caled yn golygu cymaint i fi. Fydden i byth yn rhoi’r gorau iddi.”
Mae Gwasanaeth Ysgolion ChildLine yn fenter newydd arloesol a’i nod yw bod mewn sefyllfa i ymweld â phob ysgol gynradd yn y DU unwaith bob dwy flynedd erbyn 2016, i siarad gyda phlant 9-11 oed am gam-drin, sut mae eu gwarchod eu hunain a ble mae cael help os oes arnynt ei angen. Mae gan y Gwasanaeth Ysgolion sawl gwirfoddolwr eisoes ond, er mwyn gwarchod cenhedlaeth o blant, fesul un ysgol gynradd ar y tro, mae’n rhaid i ChildLine recriwtio mwy o wirfoddolwyr ar draws Gogledd Cymru.
Dywed Jennifer Mcintyre, gwirfoddolwr gwasanaeth ysgolion ChildLine: “Ar ôl i chi orffen cynnal gwasanaeth boreol, rydych chi’n teimlo eich bod chi wedi gwneud 30 o ffrindiau newydd, mae’n grêt. Mae’r plant i gyd yn wych ac rydyn ni’n cael hwyl. Mae’n ysbrydoli rhywun drwy’r adeg – dydych chi byth yn diflasu.”
Fel gwirfoddolwyr gyda Gwasanaeth Ysgolion ChildLine, mae’n ofynnol treulio hyd at hanner diwrnod bob wythnos yn helpu i gefnogi’r rhaglen newydd uchelgeisiol sy’n ceisio atal cam-drin cyn iddo ddechrau drwy sicrhau bod gan blant ym mhob ysgol gynradd ym mhob cymuned yn y DU y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i weithredu’n hyderus os ydynt yn ofni cam-drin.
Gan ddefnyddio cyfres o wasanaethau boreol a gweithdai rhyngweithiol priodol i oedran, mae gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n annog y plant i adnabod y sefyllfaoedd ble bydd arnynt angen help efallai, a dangos iddynt sut mae cael cefnogaeth. Mae’r Gwasanaeth eisoes wedi ymweld â phlant mewn trawsdoriad o ysgolion ar draws y dref ac wedi profi’n eithriadol boblogaidd ymhlith plant, athrawon a rhieni. Dywedodd 99 y cant o’r ysgolion ledled y DU a gyflwynodd adborth yn 2012/13 bod gwybodaeth eu disgyblion am gam-drin plant a bwlio yn well o ganlyniad, a dywedodd 91 y cant bod eu disgyblion yn fwy ymwybodol yn awr o bwy ddylent siarad â hwy os ydynt yn teimlo mewn perygl.
Mae gwirfoddolwyr newydd yn cael hyfforddiant arbenigol gan ChildLine a chefnogaeth gyson i’w helpu i ddysgu sgiliau gwerthfawr i gyfathrebu gyda phlant.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion ynghylch sut mae ymgeisio, ewch i www.nspcc.org.uk/childlinevolunteer.