Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Ionawr 2014

Angen gweithredu i annog entrepreneuriaeth

Mae Plaid Cymru wedi galw eto ar i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth i fusnesau newydd sy’n cychwyn wedi i ffigyrau ddatgelu fod Cymru ar ei hôl hi ym maes entrepreneuriaeth.

Dengys y ffigyrau fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwneud cystal ag unrhyw un o genhedloedd eraill y DG ar fentrau Gweithredol fesul 10,000 o boblogaeth. Mae gan Gymru 455 o gymharu â chyfartaledd y DG o 580.

Mae rhai rhanbarthau yng Nghymru yn gwneud hyd yn oed yn waeth. I Orllewin Cymru a’r Cymoedd, dim ond 433 o fusnesau sydd am bob 10,000 o bobl. 

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones AC: “Nid yw’r ffigyrau hyn, er eu bod yn hollol ddamniol, yn peri llawer o syndod. Gwyddom fod gwleidyddion y llywodraeth yn hoffi brolio am ystadegau diystyr, ond ar lawr gwlad, mae’n amlwg nad yw twf economaidd yn lledaenu ymhellach na de-ddwyrain Lloegr.

“Gwnaeth Plaid Cymru nifer o gynigion i helpu busnesau, ac y mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru naill ai’n eu mabwysiadu neu yn rhoi eu cynigion eu hunain gerbron.

“Rydym wedi galw am ddiwygio’r system o drethi busnes i leihau’r baich ar fusnesau bach, ac yr ydym hefyd wedi galw am gyflwyno banc busnes newydd i roi mynediad at gyllid i fusnesau.

“Gallai ein cynnig am Fanc Cymru gynnig gwasanaethau penodol i egin-fusnesau, gan gynnwys benthyciadau am 0%, mentora busnes ac ymchwil farchnad, a gallai weithio gyda busnesau newydd i’w helpu i ymsefydlu.

“Mae angen dybryd am weithredu gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na adewir ardaloedd tlawd Cymru ar ei hôl hi unwaith eto.”

Rhannu |