Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Ionawr 2014

Neges Blwyddyn Newydd gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Yn draddodiadol, mae diwedd blwyddyn yn gyfnod i ni gymryd ennyd fach i edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r flwyddyn a aeth heibio.

2013. Blwyddyn o lwyddiannau gwych yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Cipiwyd teitl Pencampwyr y Chwe Gwlad unwaith eto; y Cymry’n amlwg iawn ar daith y Llewod;  Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd yn sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair a Chymro ifanc o Gaerdydd yn dod yn bêl droediwr drutaf y byd.

Ar wahân i chwaraeon, daeth pobl o bedwar ban byd i Gaerdydd yn yr hydref, i ddathlu cerddoriaeth y byd yng Ngŵyl WOMEX. Croesawyd y newydd fod cynhadledd NATO yn mynd i gael ei chynnal yn y Celtic Manor - dyma bluen fawr yn het ein gwlad. Ry’n ni’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r cyfle euraid hwn i hybu Cymru i’r byd.

Hefyd eleni collwyd Nelson Mandela, un o gewri gwleidyddol y byd modern. Bydd neges Mandela, o heddwch a maddeuant ar draul dial, neges a newidiodd Dde Affrica er gwell, yn cael ei gofio am genedlaethau lawer.

Mae pethau’n edrych yn dda yn economaidd hefyd, wrth i Gymru ddangos arwyddion clir ei bod yn dod allan o’r cynni economaidd gwaethaf mewn cof. Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru cyn uched ac erioed - mae Cymru’n perfformio’n well na’r DU gyfan

Hefyd, mae’r nifer o bobl ifanc sy’n ddi-waith wedi gostwng yn sylweddol - mae’n rhaglen flaenllaw, Twf Swyddi Cymru, wedi helpu i greu miloedd o gyfleoedd i weithlu’r dyfodol.

Eleni, gwelwyd cynnydd aruthrol mewn buddsoddiad o dramor, dyma ganlyniad ymgyrch galed i ddenu cwmnïau i Gymru.

Er gwaetha’r brwydro caled am ffyniant economaidd, rwy’n cydnabod bod bywyd yn galed o hyd i lawer o bobl Cymru. Mae costau byw sy’n cynyddu ar y cyd â newidiadau i’r system les yn cael effaith amlwg ar allu pobl i gadw dau ben llinyn ynghyd. Dyma pam, felly y byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl drwy’r cyfnod caled hwn.

Mae 2013 wedi bod yn garreg filltir bwysig yn y broses ddatganoli yng Nghymru. Roedd ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Comisiwn Silk yn un o bwys, a bydd hyn yn rhoi’r pwerau i ni allu parhau i gyflawni dros bobl Cymru.

Mae’r system o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau, a basiwyd gan y Cynulliad ym mis Mehefin, yn ddeddfwriaeth o bwys, sy’n arwain y ffordd yn y DU ac yn denu sylw gwledydd eraill ar draws y byd. Rhaid cofio hefyd mai’r Bil Teithio Llesol, a basiwyd ym mis Hydref, yw’r Bil cyntaf o’i fath yn y byd.

Rydym wedi tanlinellu’n ymrwymiad i greu Gwasanaeth Iechyd cynaliadwy, a hynny er gwaetha’r toriadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Eleni, gwelwyd cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn codi i’r lefel uchaf erioed ac mae buddsoddiad o dros £600 miliwn wedi cael ei sicrhau am y tair blynedd nesaf.

Rydym yn onest ac yn agored ynghylch yr heriau sy’n ein hwynebu ond erys ein hymrwymiad cyn gryfed ag erioed. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni’r hyn sy’n bwysig i chi, bobl Cymru.“Blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Rhannu |