Mwy o Newyddion
Betsan Powys yn cyhoeddi gweledigaeth newydd i Radio Cymru
Mae Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, wedi cyhoeddi ei gweledigaeth a’i chynllun strategol i wneud yr orsaf yn fwy perthnasol i bobl Cymru gan ddweud “fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun”.
Daw ei chyhoeddiad, sy’n rhoi pwyslais ar adlewyrchu cyfoeth bywyd y genedl a rhoi llais i bobl Cymru, yn dilyn y Sgwrs a oedd yn cyd-fynd â’r prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru.
Cafwyd dros 1,000 o ymatebion i’r Sgwrs ac mae’r sylwadau a chanfyddiadau’r ymchwil wedi cael eu hystyried wrth lunio’r strategaeth olygyddol newydd.
Wrth gyhoeddi ei gweledigaeth dywedodd Betsan Powys: “Adlewyrchu cyfoeth eich bywydau chi, ystod eich barn a'ch chwaeth chi fydd nod Radio Cymru, a chan fod hwnnw - diolch byth - yn ystod eang, mae’n rhaid mynd ati nawr i ehangu apêl Radio Cymru."
Fe fydd amserlen Radio Cymru o ddydd Llun i ddydd Gwener yn newid yn y gwanwyn gyda chyflwynwyr newydd yn ymuno â’r orsaf – fe fydd y darlledwr o’r byd radio masnachol, Tommo, yn cyflwyno rhaglen brynhawn newydd o ddydd Llun i ddydd Iau â Shân Cothi yn cyflwyno rhaglen fore newydd o’r enw ‘Bore Cothi’. Bydd sŵn y bore cynnar yn newid gyda Dylan Jones yn aros ar yr awyr i gyflwyno rhaglen newydd ar ôl Post Cyntaf tan 10am, yn rhoi’r byd yn ei le, yn trafod pynciau mawr a bach y dydd gyda’r gwrandawyr ac yn rhoi llais cynnar i gyfarchion y dydd.
Fe dalodd Betsan Powys deyrnged i’r cyflwynwyr hynny na fydd yn cael eu clywed mor aml ar yr orsaf, gan ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u gwaith caled. Amlinellodd hi sut y byddai’r newidiadau yn ehangu apêl yr orsaf:
“Yn y dyfodol, dyma fydd neges Radio Cymru i chi: os y'ch chi am glywed rhywbeth newydd am y Gymru ry'ch chi'n byw ynddi, a'r byd mae'n rhan ohono, dewch at Radio Cymru yn y bore. Dewch aton ni amser cinio i herio, neu gyfoethogi'r hyn ry'ch chi'n gwybod yn barod. Fe fydd lle pwysig i holi a phrocio - adlais arall gwerthfawr o'r gorffennol - yn sŵn yr orsaf dros ginio. Yn y prynhawn, joiwch gyda ni. Dewch i gael dipyn bach o sbort, cystadlu, canu, dychan a chwerthin yng nghwmni Radio Cymru. Ar ôl awr o newyddion - a phigion y gorau o ddarlledu'r dydd - dewch i drio rhywbeth newydd, arbenigol, apelgar, cyn noswylio gyda'r cyfarwydd.
“Ehangu’r apêl amdani felly, a derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb. Ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun. Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun.
“Os gallwn ni'ch darbwyllo chi i aros gyda ni drwy'r dydd, wrth i ni ddarlledu o Fangor, Caerdydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth - Bonws! Fe wnewn ni’n gorau”.
Tommo – sef enw darlledu Andrew Thomas o Aberteifi – fydd un o brif leisiau newydd yr orsaf ynghyd â’r ddarlledwraig genedlaethol Shân Cothi.
Dywedodd Tommo: “Mae cael sioe ar Radio Cymru fel ennill cap i Gymru – fi wedi gweithio’n galed i’r tîm lleol a nawr fi’n cael ware i’r tîm cenedlaethol! Mae’n ffantastic! Fi’n edrych mlân dod i nabod pawb a chwrdd â ffans Radio Cymru! Fi moen cael lot o hwyl a chwerthin a cherddoriaeth ar y sioe newydd a neud yn siŵr bod pawb yn joio – fi ddim yn mynd i adael tîm Cymru lawr!”
Fe fydd sioe brynhawn Tommo llawn sbort, jôcs a cherddoriaeth – y gorau o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd o’r 60au hyd at heddiw.
Pwysleisiodd Betsan Powys bod meithrin ‘sain gerddorol’ i’r orsaf yn holl bwysig i lwyddiant Radio Cymru.
“Gyda help llaw tîm Radio Cymru, dwi am weld yr orsaf yn magu 'sain gerddorol' sy'n gyson, heb fod yn undonog, yn amrywiol heb fod yn fratiog ac anesmwyth i chi sy'n gwrando. Roedd honno’n neges gref ddaeth o’r Sgwrs. Fe fydd Radio Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan i'r rheiny sydd am glywed cerddoriaeth newydd, a'r gorau - a dim ond y gorau - o'r caneuon hynny’n cael eu cyflwyno i chi, a’u dathlu yn ystod y dydd. Y tu hwnt i’r oriau brig fe fyddwn ni'n arbenigo, yn arloesi ac yn cynnig rhywbeth cerddorol gwahanol.
“Byrdwn y Sgwrs oedd y dylai Radio Cymru fod yn orsaf sy'n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf. Mae lle, meddech chi, i beth cerddoriaeth Saesneg ond ddim gormod. Felly y bydd hi.”
Dywedodd hefyd ei bod hi wedi rhoi ystyriaeth gref i’r cwestiwn mawr arall a gododd yn ystod y Sgwrs, sef a oedd angen ail orsaf genedlaethol?
“Yn bersonol, dwi o'r farn y byddai cael ail orsaf genedlaethol Gymraeg - o ba gyfeiriad bynnag y dele honno, boed y BBC â rhan yn ei sefydlu a’i rhedeg hi ai peidio - yn llesol i Radio Cymru. Ond waeth bod yn onest a chlir o'r dechrau. Mae cyllideb BBC Cymru i ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg wedi crebachu'n sylweddol, ac er bod DAB, sef radio digidol, yn raddol gyrraedd mwy a mwy o gymunedau ac yn rhoi cyfle i ni rannu’r gwasanaeth bob hyn a hyn, dyw’r dechnoleg honno ddim yn cynnig ateb hawdd. Drwy donfedd FM mae trwch gwrando Radio Cymru yn digwydd, a’r tebyg yw mai fel hyn y bydd hi am beth amser i ddod.
“Os mai pwrpas ail orsaf fyddai cynnig dewis i'r gynulleidfa - wel yn hytrach na digalonni, oes yna ffyrdd eraill o gynnig y dewis hwnnw? Mewn gair, oes.
“Y cam cyntaf yw hyn: sef y bydd BBC Cymru yn lansio gwasanaeth digidol Cymraeg newydd sbon yn gynnar yn 2014. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth hwnnw, ‘Cymru Fyw’ yn dod â‘r gorau o gynnwys digidol BBC Cymru i chi – yn gynnwys newyddion a straeon cyffredinol a’r cynnwys hwnnw ar gael ar gyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi. Bydd gweithgarwch Radio Cymru yn cael ei adlewyrchu gan Cymru Fyw. Ydi, mae’n gyd-ddigwyddiad hapus a chynhyrchiol.
“Mae gwrando dros y we hefyd yn cynnig dewis. Gyda hynny mewn golwg, mi rydw i wedi dechrau archwilio a oes modd creu ‘jiwc-bocs’ cerddoriaeth Gymraeg ar y we – un porth i’r gerddoriaeth Gymraeg orau, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
“Os bydd pobol Radio Cymru’n teimlo mai nhw piau’r cyfrwng yn y dyfodol, dyna i fi fydd mesur pwysig iawn o lwyddiant”.
Manylion amserlen newydd Radio Cymru, o ddydd Llun i ddydd Gwener, sy’n dechrau yn y gwanwyn:
5am – 6am: Rhaglenni amrywiol
6am – 8am: Post Cyntaf gyda Kate Crockett a Dylan Jones
8am – 10am: Dylan Jones
10am – 12pm: Bore Cothi gyda Shân Cothi
12pm – 12.30pm: Rhaglenni sy’n holi a phrocio
12.30pm – 1pm: Rhaglenni Nodwedd/Drama
1pm – 2pm: Taro’r Post gyda Garry Owen
2pm – 5pm: Tommo (o ddydd Llun i ddydd Iau) a Tudur Owen (dydd Gwener)
5pm – 6pm: Post Prynhawn gyda Dewi Llwyd
6pm – 6.15pm: Pigion
6.15pm – 7pm: Rhaglenni Dogfen/Nodwedd
7pm – 10pm: C2
10pm – 12am: Geraint Lloyd
Llun: Andrew Thomas, Shân Cothi a Dylan Jones