Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Tachwedd 2013

Ysgolion i weithio gyda'i gilydd i godi safonau

Annog ysgolion i weithio gyda'i gilydd i wella safonau addysg er lles holl ddisgyblion – dyna oedd ar frig yr agenda mewn cynhadledd bwysig ar gyfer penaethiaid ysgolion cynradd Gwynedd a gynhaliwyd yr wythnos hon.

Roedd y gynhadledd undydd yn gyfle i ysgolion cynradd Gwynedd i sefydlu perthynas weithio mewn ardaloedd daearyddol ac i ddatblygu rhaglen waith ar gyfer gwella safonau addysgol. Y nod yw ffurfio clystyrau o dair ysgol, gan nodi cryfderau ac arfer da ac yna sefydlu'r ffordd orau i rannu arbenigedd a sgiliau.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: "Fel Cyngor, rydym eisiau’r gorau ar gyfer ein plant a phobl ifanc. Addysg ydi un o'r arfau pwysicaf y gallwn ei roi i'n plant. Mae'n agor drysau a galluogi plant i ddatblygu'n llawn, beth bynnag eu hamgylchiadau. Mae addysg yn hanfodol hefyd i wella ein heconomi.

"Mae’r arolygiaeth ysgolion Estyn wedi dweud wrthym fod llawer o'n hysgolion yn gwneud gwaith rhagorol, a dyna pam yr ydym am alluogi ysgolion Gwynedd i ddysgu o arfer rhagorol ac i wella safonau.

"Mae’r sgiliau a'r arbenigedd yma yn y system yn barod - yr hyn sydd ei angen rŵan ydi gwneud y gorau o hyn a datblygu a gweithio mewn ffordd ychydig yn wahanol er budd pob plentyn.

"Bu llawer o sôn yn ddiweddar am safonau addysgol mewn gwledydd ar draws y byd, gyda Ffindir ar frig y rhan fwyaf o restrau rhyngwladol. Yr hyn sydd wedi fy nharo i am fodel y Ffindir ydi mai yno mae’r bod bwlch cyrhaeddiad disgyblion lleiaf yn y byd, a bod eu hathrawon yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu addysg a rhannu eu profiad.

"Mae ein hathrawon yma yng Ngwynedd yn fedrus, yn ymroddedig ac yn broffesiynol yn eu hagwedd tuag at y dasg o wella safonau. Rydym i gyd yn gwybod bod yn rhaid i ni fod yn ymdrechu yn barhaus i wthio ein plant i fyny'r cylch o gyflawniad er mwyn i ni yng Nghymru hefyd allu cymharu ein hunain gyda’r gorau yn y byd. Os gall Ffindir wneud hynny, pam na allwn ni? Mae angen i ni yng Ngwynedd fod ymhlith y goreuon, nid yn unig yng Nghymru, nid wrth gymharu â Lloegr, ond fel arweinydd ar lwyfan rhyngwladol.

"Dyna pam ein bod yn gweithredu'r model arloesol ysgol i ysgol er mwyn i ni wneud y mwyaf o arbenigedd ein hathrawon yn ein gweledigaeth ar y cyd o godi safonau ar gyfer lles plant a phobl ifanc Gwynedd."

Roedd y gynhadledd yn galluogi penaethiaid i nodi a rhannu cryfderau o ysgolion ar draws y sir, llunio rhaglen waith a pharhau i weithio gyda'i gilydd dros y misoedd nesaf fel rhan o'r rhaglen ysgol i ysgol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sian Gwenllian: "Gall Gwynedd fod yn falch o'i dîm ymroddedig o staff addysgu - yr hyn yr ydym ei eisiau rwan ydi gwneud y gorau o'u gwybodaeth, profiad a sgiliau. Nod y gynhadledd hon oedd galluogi penaethiaid i chwarae rhan ganolog mewn datblygu model ysgol i ysgol Gwynedd er budd disgyblion ar draws y sir.

"Mae'r proffesiwn addysgu yn hanfodol i'n gwaith o godi safonau - maent yn bartneriaid hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i wella. Maent yn dal yr allwedd i alluogi ein plant i gyflawni eu llawn botensial."

Clywodd y gynhadledd hefyd gan Geraint Rees o Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru; yr ymgynghorydd addysg annibynnol, Dafydd Idrisrwyn Roberts a Huw Foster Evans, prif swyddog GwE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol.

Llun: Sian Gwenllian

Rhannu |