Mwy o Newyddion
Bae Abertawe yn methu ennill statws Dinas Diwylliant y DU
Mae Bae Abertawe wedi colli o drwch blewyn i fod yn Ddinas Diwylliant y DU ar gyfer 2017.
Er iddi gyrraedd y rhestr fer, collodd y rhanbarth i Hull, a fydd nawr yn dilyn Derry-Londonderry fel y ddinas diwylliant.
Meddai'r Cyng. David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Yn gyntaf hoffem longyfarch Hull a dymuno pob llwyddiant iddynt yn 2017.
"Efallai nad ydym wedi ennill y statws, ond rydym wedi dweud ers y dechrau y byddai Bae Abertawe ar ei hennill beth bynnag y bo'r canlyniad, oherwydd rydym eisoes yn ddinas diwylliant, ac mae'r broses hon wedi profi hynny. Mae maeddu saith cais arall i gyrraedd y rhestr fer o bedwar wedi bod yn gyflawniad gwych yn ei hun – nid ydych yn cyrraedd y rhestr fer mewn cystadleuaeth fel hon i lenwi bwlch yn unig.
"Mae gennym bob rheswm i fod yn falch o'n cais, a hoffem ddiolch i bawb yn ein rhanbarth arbennig a ddaeth at ei gilydd i gefnogi'r cais. Bu'n ymdrech rhanbarth cyfan, gyda sefydliadau creadigol, busnesau, cyrff cyhoeddus, y cyfryngau, cymunedau ac unigolion oll yn chwarae rhan hanfodol."
Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Roedd synnwyr o gydweithio drwy gydol proses y cais, ac mae hyder newydd ym Mae Abertawe eisoes wedi bod o fantais i'r rhanbarth a'i sefydliadau. Felly, dylem ddathlu'r hyn y mae'r broses gwneud cais eisoes wedi'i ddarparu - ymdeimlad newydd o egni, angerdd, hyder a balchder yn ein hunaniaeth unigryw a'r potensial sydd wedi treiddio ar draws y rhanbarth.
"Nawr mae angen i ni barhau â'r momentwm a gwneud y mwyaf o'r angerdd ac ymroddiad hynny. Mae ein huchelgeisiau'n parhau: rydym bob amser wedi bod yn ddinas o bobl greadigol a dyfeisgar, ac adlewyrchwyd hynny yn ein cais. 'Diwylliant gwerin gwlad' dilys yw hanfod rhanbarth Bae Abertawe, a bydd hynny'n parhau wrth i ni symud ymlaen.
"Mae ein cais wedi creu undod, optimistiaeth a hyder ymhlith pobl ledled y rhanbarth cyfan. Oherwydd hynny, rydym eisoes yn enillwyr."
Roedd seren Hollywood, Michael Sheen; y digrifwr, Rhod Gilbert; a'r cyfansoddwr, Karl Jenkins; ymhlith yr enwogion a gefnogodd y cais.