Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Tachwedd 2013

Arwerthiant gelf a chrefft yr Urdd arlein

Cynhaliwyd Arwerthiant Celf a Chrefft yn Llancaiach Fawr ar 2 Tachwedd. Trefnwyd hyn gan Bwyllgor Celf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.

Roedd hi’n noson fendigedig er gwaetha’r tywydd erchyll! Danny Grehan a Dan Phillips oedd Arwerthwyr penigamp y noson a daeth Dan Phillips a chriw ffilmio gyda fe.

Darlledwyd yr eitem ar raglen ‘Heno’. Casglwyd dros 120 o eitemau i’w arwerthu a llwyddwyd i godi dros £3,500. Roedd amrywiaeth o ddarnau hyfryd gan grefftwyr, gwneuthurwyr, beirdd a cherddorion ac artistiaid lleol, o siroedd cyfagos a rhai oddi wrth bobl yn byw ymhellach i ffwrdd ond sydd gyda rhyw gysylltiad gyda Sir Caerffili.

Cerdd ‘Cwm Rhymni’ gan Dafydd Islwyn oedd un o’r eitemau poblogaidd iawn ac fe gafwyd cynnigion di-ri amdano. Roedd y gerdd wedi ei hysgrifennu yn ei lawysgrifen ef ei hun ac yna wedi ei fframio gan gwmni ‘Framing Wales’ o Gaerdydd,

Roedd bri hefyd ar lun gan Angharad Tomos o gymeriadau Gwlad y Rwla yn dymuno pob lwc i Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.

Gwerthwyd darnau hyfryd gan artistiaid enwog fel Anthony Evans a Chris Griffin sy’n enedigol o’r ardal yn ogystal a chaneon gan Dafydd Iwan yn ei lawysgrifen ei hun. Roedd gemwaith hyfryd gan Mandy Nash a serameg gan Molly Curley, Matthew Jones a Sally Stubbings hefyd ar gael. Aeth gweithdy dwy awr serameg gyda’r artist serameg lleol Matthew Jones yn gyflym iawn i rywun a’u bryd ar greu!

Gan fod gymaint o eitemau, nid oedd digon o amser i arwerthu popeth ar y noson ac felly mae nifer o eitemau bendigedig dal ar ôl ac yn ymddangos ar y catalog sydd ar wefan yr Urdd. Yno, fe welwch fod cwilt clytwaith penigamp yn llawn sampleri o wahanol siapiau gan Siân Mullaney. Mae isafswm o £200 ar y cwilt bendigedig hwn – cymerodd oriau o waith i’w greu ac mae’n werth o leiaf £400. Cwilt i ffitio gwely dwbl ydy hwn.

Darn arall gwerthfawr ac unigryw sydd ar gael hefyd yw darn o emwaith a fydd yn cael ei gynllunio gan gwmni gemwaith Rhiannon. Daw’r teulu yn wreiddiol o Waelod y Garth ac felly maent yn teimlo cyswllt arbennig gyda Chaerffili.

Medd Gwern o’r cwmni teuluol yma: "Byddwn yn cynllunio a chreu’r darn yn arbennig ar gyfer y sawl sydd yn fuddugol yn yr arwerthiant. Rydym yn arbenigo ers blynyddoedd bellach yng ngyflenwi darnau comisiwn unigryw i gwsmeriaid ac yn edrych ymlaen at gynllunio rhywbeth addas i ennillydd yr arwerthiant."

Bydd gan y darn ddilysnod a marc y gwneuthurwr. Mae Cwmni Rhiannon yn wneuthurwr gemwaith arian, aur ac aur Cymru ers 1971.

Dim ond dau allan o 59 eitem sydd arlein nawr ydy’r rhain. Gellwch gael darn o waith gan yr arlunydd enwog David Carapanini i gofio am ganmlwyddiant tanchwa Senghennydd. Rhodd i’r arwerthiant gan y Dr Elin Jones yw’r darn yma.

Neu beth am ddarn o waith lliwgar a bywiog gan Martyn Evans? Artist o Gwm Cynon sydd bellach yn byw yn Seland Newydd yw Martyn. Fe roddodd Martyn dri darn o waith i’r arwerthiant.

Rhodd gan Max Boyce oedd dau docyn ar gyfer ei gyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm  - does dim un tocyn arall ar gael yn y Swyddfa Docynnau. Mae Canolfan y Mileniwm wedi hen werthu allan o docynnau ar gyfer y gyngerdd olaf yma yn nhaith penblwydd 70 Max.

Mae eitemau ar gyfer pobl sydd yn ymddiddori mewn chwaraeon hefyd – tri canfas gan yr Molly Curley a darn gan Eurfryn Lewis, athro Celf Ysgol Gyfun Gwynllyw. Cewch weld gwaith Eurfryn yn ymddangos yn un o orielau mawr Caerdydd ond dyma gyfle i roi cynnig am y darn yma arlein.

Yn ogystal a’r darnau celf mae pêl-droed wedi ei arwyddo gan enwogion fel Craig Bellamy, Robert Earnshaw a Gareth Bale pan oeddent yn chwarae dros Gymru yn y tîm dan 21ain. Os taw athletau sy’n mynd a’ch pryd – yna mae crys athletau wedi ei arwyddo gan dîm athletau Cymru – pobl megis Dai Green.

Bydd yr Arwerthiant yn parhau ar lein yn y man cyntaf tan 12.00am ar Ddydd Gwener 06 Rhagfyr ar wahân i ddwy eitem sydd â dyddiad cau gwahanol. Oherwydd eu bod yn docynnau ar gyfer cyngerdd Max Boyce a chyngerdd Katherine Jenkins bydd yr eitemau yma yn cau ar y catalog arlein ynghynt. Gweler y catalog am fanylion y dyddiadau cau ar gyfer y ddwy eitem yma.

Beth amdani? – ewch ati i osod cynigion ar frys!

http://www.urdd.org/eisteddfod/arwerthiant-2015

Cofiwch edrych ar safle we’r Urdd a thudalen gweplyfr Eisteddfod 2015 am fwy o fanylion am weithgareddau sydd ar y gweill. https://www.facebook.com/groups/Caerffili/ neu www.urdd.org/eisteddfod2015

Rhannu |