Mwy o Newyddion
Dadl Seneddol yn nodi blwyddyn ers cyflwyno cyfreithiau stelcian
Heddiw, bydd arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS, yn arwain dadl yn Nhŷ'r Cyffredin i nodi blwyddyn ers cyflwyno’r deddfau stelcian newydd a ddaeth i rym fis Tachwedd diwethaf.
Mae'r cyfreithiau’n ganlyniad ymchwiliad seneddol annibynnol dan gadeiryddiaeth Mr Llwyd a oedd yn ddigynsail yn y modd yr oedd wedi ymgynghori â dioddefwyr stelcian a'u perthnasau, arbenigwyr, a gwleidyddion o bob plaid yn Senedd San Steffan.
Yn ei araith, bydd Mr Llwyd yn dweud, er fod y deddfau hyn yn rhai arwyddocaol a fydd yn achub nifer o ddioddefwyr rhag erledigaeth pellach neu, yn yr achosion mwyaf eithafol, farwolaeth, mae ofnau nad yw egwyddorion cadarn y deddfau yn cael eu hadlewyrchu’n ymarferol.
Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Mr Llwyd: "Rwy'n credu mai dyma’r enghraifft gyntaf o grŵp trawsbleidiol (oni bai am Bwyllgor y Tŷ) yn llwyddo i gyflwyno newid yn y gyfraith, ac yn sicr rwyf yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan yn hyn.
"Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig iawn tuag at sicrhau cyfiawnder i filoedd o ddioddefwyr sydd yn aml yn rhy ofnus neu heb ddigon o ffydd yn y system gyfiawnder i adrodd troseddau stelcian i’r heddlu.
"Mae Arolwg Troseddu Prydain yn 2011/2012 yn awgrymu bod o leiaf 120,000 o unigolion yn cael eu heffeithio gan stelcian bob blwyddyn. Er gwaethaf y nifer uchel o achosion, credir bod dioddefwyr yn tueddu i aros tan y canfed achos o stelcian cyn mynd at yr heddlu.
"Dyna pam mai un o’r prif argymhellion sy'n deillio o'r ymchwiliad yw y dylai gweithwyr proffesiynol o fewn y system cyfiawnder troseddol dderbyn hyfforddiant digonol wrth ddelio ag adroddiadau am ddigwyddiadau ac achosion. Y nod oedd meithrin ymddiriedaeth a hyder yn y system, gan annog dioddefwyr i adrodd troseddau heb ofni cael eu herlid ymhellach yn sgil ymateb annigonol gan yr awdurdodau.
"Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw'r cyfreithiau newydd yn cael eu defnyddio'n ddigon eang, ac nad yw llawer o heddluoedd wedi cynnal hyfforddiant ynghylch y troseddau newydd.
"Mae'r ffigurau a gafwyd drwy gais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos mai dim ond 33 o droseddwyr a gafwyd yn euog gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn ystod chwe mis cyntaf y deddfau stelcian newydd. Er gwaethaf y ffaith fod yr heddlu wedi dechrau hyfforddiant, mae llai na 30% o swyddogion yr heddlu wedi gweld y pecynnau e-ddysgu.
"Er ei bod yn newyddion gwych bod y deddfau bellach ar waith, mae'n hanfodol eu bod yn arwain at newid ymarferol yn ogystal â mewn egwyddor. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r methiannau sy’n gadael dioddefwyr yn agored i ymosodiad pellach a sicrhau bod y proffesiynau cyfiawnder troseddol yn cael eu hyfforddi a’u monitro’n effeithiol yn dilyn hynny.
“Bu i’n hymchwiliad elwa’n helaeth o brofiad ac arbenigedd, ac mae pawb fu’n ymwneud ag o yn hyderus bod hwn yn ddarn cadarn o ddeddfwriaeth. Nawr, ein dyletswydd i holl ddioddefwyr y drosedd ofnadwy hon yw i sicrhau bod y cyfreithiau hyn yn cael eu gweithredu'n llawn ac yn effeithiol. Dim ond wedyn y gallwn gyflawni’r amcanion o sicrhau cyfiawnder ac arbed bywydau."