Mwy o Newyddion
Gwnewch yn iawn drwy ioga: Helpu Ynysoedd y Philipinau
Bydd diwrnod elusennol Ioga i'r Philipinau yn digwydd dydd Sul nesaf, 1af Rhagfyr rhwng 10:00yb - 4:00yp yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, gyda'r bwriad o godi arian ar gyfer Apêl DEC ar ran Argyfwng Ynysoedd y Philipinau, yn dilyn y drychineb corwynt.
Bydd rhai o athrawon ioga a therapyddion holistig blaenllaw de Cymru yn dod at ei gilydd i gynnal diwrnod o ioga a gweithdai ar raddfa unigryw, a fydd nid yn unig yn darparu cyfranogwyr gydag ystod eang o weithgareddau diddorol a llawn hwyl, ond hefyd yn codi arian mawr ei angen ar gyfer Ynysoedd y Philipinau, lle mae bywydau miliynau o bobl wedi eu dinistrio, gyda galw mawr am fwyd, dŵr glân a lloches ar frys.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Catherine Kelleher, Sylfaenydd ac Athro yn Yoga Fever, Caerdydd, a dyma hi'n esbonio beth a'i hysbrydolodd i drefnu'r digwyddiad elusennol mawr hwn i godi arian ar gyfer Apêl y Philipinau:
"Rwy'n siŵr ein bod oll wedi ein heffeithio gan y newyddion am y drychineb ddinistriol yn y Philipinau yn ddiweddar.
"Ro'n i yn ddigon ffodus i deithio i Ynysoedd y Philipinau drwy 'ngwaith ar sawl achlysur yn ystod y cyfnod rhwng 2002 - 2009 tra'n gweithio i gwmni 118 118 yng Nghaerdydd.
"Roeddwn yn ffodus cael gwneud llawer o ffrindiau yn ystod yr ymweliadau hyn, a thrwy cyswllt dyddiol dros y ffôn ac e-bost yn ôl yn y DU.
"Roedd y bobl yno yn hardd, yn wydn ac yn hynod o groesawgar, ac wrth gwrs wrth i'r newyddion am y drychineb gyrraedd ein sgriniau, ro'n i'n teimlo'r angen i wneud yr hyn a allwn i godi arian.
"Ers gadael 118 118 yn 2009, dw i 'di bod yn rhedeg Yogafever yng Nghaerdydd a'r Bont-faen, ac yn helpu i dyfu y gymuned ioga ar draws de Cymru.
"Wrth drafod gydag athrawon a myfyrwyr ioga eraill, daeth yn amlwg i mi fod eraill hefyd yn awyddus i wneud rhywbeth ar gyfer yr apêl, felly penderfynais ddechrau digwyddiad codi arian drwy ioga.
"Mae'r ymdrech ers hynny wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad codi arian ar raddfa dorfol, sef digwyddiad Ioga i'r Philipinau, gyda dros 20 o athrawon ioga ac ymarferwyr cyfannol eraill o bob rhan o dde Cymru yn cymryd rhan."
Yn ogystal â dosbarthiadau ioga, mae croeso i bobl brynu a chymryd rhan mewn therapïau a gweithdai holistig, fel tylino. Mi fydd yna stondinau yn darparu bwydydd cyflawn gan gynnwys cacennau llysieuol a fegan, siocled amrwd a chyfleusterau diod, yn ogystal â rafflau a cherddorion lleol yn darparu cerddoriaeth. Y nôd yw codi gymaint o arian â phosib.
Meddai Catherine: "Mae'r digwyddiad codi arian yma yn unigryw nid yn unig oherwydd ei faint o ran digwyddiadau ioga yng Nghymru, ond fe fyddwn hefyd yn defnyddio technegau ioga karma - sef ioga gweithredol - sydd yn ein tyb ni yn hynod bwerus ac effeithiol pan ddaw un cymuned ati i helpu cymuned arall.
"Dyma gyfle i gymunedau de Cymru i ddod at ei gilydd i helpu cymunedau yn Ynysoedd y Philipinau, sydd wir angen ein help ar hyn o bryd."
Meddai Nik Hole, Prif Swyddog Gweithredol 118 118 yn Ewrop: "Mae'r raddfa arswydus o ddioddefaint dynol yn y Philipinau yn beth ofnadwy fel y gwyddom o adroddiadau ein cydweithwyr sy'n gweithio yno.
"Yn ogystal â'r apêl codi arian sydd ganddom ar raddfa leol yn y Philipinau, rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth egnïol Catherine yma yng Nghaerdydd, ac yn falch iawn o allu noddi Ioga i'r Philipinau.
"Mae'n argoeli i fod yn ddigwyddiad anhygoel a hynod werth chweil ar gyfer cyfrannu tuag at gronfa apêl y Philipinau."
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad Ioga i'r Philipinau , ewch i http://www.yogafever.co.uk, hoffwch Yogafever ar Facebook neu dilynwch #yogaph wrth drydar. Mae tocynnau ymlaen llaw yn costio £15 am hanner diwrnod a £25 am ddiwrnod llawn (£20/ £30 ar y diwrnod) . I brynu tocynnau, ewch i http://www.justgiving.com/yogaph. Os nad ydych yn gallu mynychu'r diwrnod, fe allwch gyfrannu drwy'r dudalen Just Giving .