Mwy o Newyddion
Marw hen Sioni
Bu Sebastien Prigent yn wyneb cyfarwydd am dros ddeng-mlynedd-ar-hugain yn nhref Llanelli a’r cyffiniau. Yr oedd yn un o’r to olaf o’r gwerthwyr winwns o Lydaw, y Sionis olaf, Llydaweg eu hiaith a ymwelai’n gyson a Chymru, traddodiad yn ymestyn yn ôl bron ddwy ganrif.
Bu farw fore Gwener diwethaf yn 92 oed yn ei gartref yn Santec, ger Roscoff, ac y mae darn o hanes cymdeithasol fu’n cysylltu gwerin Cymru a gwerin Llydaw yn graddol ddirwyn i’w ddiwedd.
Dechreuodd werthu winwns yn Perth yn Yr Alban ym 1936, a wedi priodi Thérèse ym 1945 ail-gydiodd ym masnach y winwns yn Llanelli. Oherwydd yr oedd Thérèse, a fu farw ychydig flynyddoedd yn ôl, hithau’n tynnu at ei deg-a-phedwar-ugain, yn ferch i Marie Le Goff fu’n gwerthu winwns yn nhre’r sospan er 1920 ac yn un o gymeriadau adnabyddus marchnad Llanelli am dros hanner canrif.
Yr oedd cysylltiad y teulu gyda Llanelli yn un closiach na llawer o’r Sionis fyddai’n dod trosodd am chwe neu saith mis bob gaeaf cyn dychwelyd i Lydaw o Fawrth hyd ganol Awst. Yr oedd ganddynt dŷ yn y dref, ger Swyddfa’r Post. Deuent yno fel teulu a byddai plant Sebastien a Thérèse, sef Guy a Marie-Josie, yn treulio dau dymor yn yr ysgol gynradd Gatholig yn Llanelli a thymor yn yr ysgol yn ôl yn Llydaw. Mae Marie-Josie yn parhau i siarad Saesneg sy’n gyfuniad hudolus o acen Ffrengig ag acen Llanelli.
Yr oedd Sebastien yn ddyn bychan o gorff, siriol a mwynaidd a threuliais lawer o amser yn ei gwmni dros y blynyddoedd. Y tro olaf oedd yng ngŵyl y winwns yn Roscoff ym mis Awst. Er nad oedd mor rhugl ei Gymraeg a’i fam-yng-nghyfraith - cafodd hi ei recordio gan BBC Cymru a Radio Cymru -cafodd hwyl fawr yn ceisio cynnal sgwrs gyda fy wyres a’m ŵyr. Ei bleser mawr oedd ei ardd, un sylweddol iawn, lle tyfai winwns – wrth gwrs – ac amrywiaeth o ffrwythau a llysiau.
Yr oeddynt yn deulu arbennig o ddiwylliedig. Thérèse oedd cantores swyddogol Eglwys Santec a chanddi hi a’i mam y cefais lawer o hanes bywyd y teulu yn Llanelli. Deuai Thérèse hithau trosodd yn blentyn gyda’i rhieni a dywedodd wrthyf un tro fel yr oedd yn chwarae yn nociau Llanelli pan welodd fachgen bach, yr un oed â hi o deulu arall, gyda llwyth o winwns i’w gwerthu wedi gorwedd ar lawr a mynd i gysgu. Er na fyddai Thérèse yn gwneud hynny, nid oedd yn anghyffredin rhwng y ddau ryfel gweld Sionis bach, ambell un mor ifanc â naw a deg oed, yn gwerthu winwns ar gornel stryd neu o ddrws i ddrws.
’Roedd yn amlwg bod y bachgen bach wedi bod yn cysgu am beth amser a phan gafodd ei ddeffro gan Thérèse yr oedd yn ddagreuol iawn ac yntau heb werthu dim. Aeth Thérèse ag e adre at ei mam a phrynodd Marie Le Goff ei winwns i gyd. Parhaodd y trefniant hwnnw am wythnosau!
Un adeg ’roedd mwy nag un teulu o Sionis yn dod i Lanelli a cheir hanes am Charles Floc’h ym 1930 yn gorfod mynd i’r llys ar ôl cael ei ddal ar ei feic heb olau ôl. Mynnodd na fedrai siarad Saesneg ond y medrai wneud yn burion yn Gymraeg a mynnodd bod y llys yn darparu cyfieithydd iddo gael rhoi ei dystiolaeth yn Gymraeg.
Perthynas, o bosib mab, i’r Charles Floc’h hwnnw oedd y pêl-droediwr ieuengaf i gynrychioli Ffrainc erioed, sef Louis “Loulou” Floc’h. Cynrychiolodd Louis ei wlad 16 o weithiau ac wedi ymddeol bu’n cadw siop lyfrau a phapurau newydd yn Roscoff. Ymhyfrydai ei fod o dras y Sionis a chawn groeso bob amser i’w swyddfa lle ’roedd lluniau mawr ohono yn lliwiau Ffrainc, Monaco, Paris FC, Paris-Saint-Germain, Rennes a Stade Brestois.
Lawer gwaith dywedodd wrthyf fel y bu iddo dorri ei goes mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad Belg ym 1966. Onibai am hynny, ni fuasai Lloegr wedi ennill y Cwpan Byd, meddai. Y cyfan ddwedwn i oedd “Trueni na fuaset ti wedi dewis ryw dymor arall i dorri dy goes!”
Yr oedd Louis wedi gofyn droeon i Sebastien fynd gydag e i Lanelli iddo gael gweld ble y bu ei dad – ac eraill o’r teulu – yn treulio’u gaeafau. Ond rywsut ni ddigwyddodd hynny.
Cadwodd y teulu Prigent gysylltiad gyda nifer o bobol o ardal Llanelli dros y blynyddoedd, yn ei plith Anita Williams, y gantores o Drimsaran.
Dylid nodi nad yw traddodiad dynion Roscoff o ddod trosodd i Gymru i werthu winwns unigryw Roscoff wrth y rhaff wedi llwyr ddarfod, ond anarferol bellach yw cyfarfod un sy’n medru siarad Llydaweg.
Ganed Sebastien Prigent yn Saint-Pol-de-Leon ar 15 Chwefror 1921 a bu farw ar Dachwedd 8, 2013. Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Santec, ddydd Mawrth (Tachwedd 12). Gedy fab a merch, Guy a Marie-Josie, wyrion, wyresau a gor-wyrion.