Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2013

Cefnogi ymladdwyr tân dros newidiadau anghyfiawn i'w pensiynau

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams AS, wedi ymuno âg ymladdwyr tân Arfon ar y linell biced, gan alw ar y Llywodraeth i ail feddwl ar frys eu newidiadau i bensiynau, a fyddai’n gweld ymladdwyr tân yn gorfod gweithio ar y rhengoedd blaen hyd nes eu bod yn 60 oed. 
 
Ymunodd Mr Williams âg ymladdwyr tân lleol yng Ngorsafoedd Tân Bangor a Caernarfon ddydd Mercher, wrth i ganoedd o aelodau o Undeb y Frigad Dân (FBU) fynd ar streic am 4 awr ar hyd a lled Cymru i brotestio yn erbyn newidiadau dadleuol i’w trefniadau pensiwn. Hon yw’r drydedd streic mewn mis yn dilyn streic fis Medi pan gerddodd ymladdwyr tân allan am bedair awr.
 
Yn siarad o’r linell biced, dywedodd Mr Williams: “Mae’n hen bryd i Lywodraeth San Steffan a Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd ddechrau gwrando ar bryderon gwirioneddol ymladdwyr tân ynglŷn â’r newidiadau annheg ac anymarferol i bensiynau.

"Mae ymladdwyr tân, fel y rhai sy’n gweithio yng ngorsafoedd Caernarfon, Bangor a Llanberis yn fy etholaeth i, yn peryglu eu bywydau er mwyn amddiffyn pobl eraill.

"Mae disgwyl iddyn nhw ymgymryd â dyletswyddau corfforol trwm hyd nes eu bod yn 60 yn hollol afresymol, heb son am beryglu diogelwch y cyhoedd.

"Pwy fasa’n fodlon cael eu cario o adeilad ar dân gan rhywun 60 oed a fyddai, wrth reswm, ddim yn gallu ymgymryd â’r dasg.”     
 
Ychwanegodd Mr Williams: “Trwy newid trefniadau pensiynau, mae’r Llywodraeth i bob pwrpas yn condemio canoedd o ymladdwyr tân sydd, yn eu 50au a’u 60au, ddim yn gallu ymgymryd â’u dyletswyddau yn llawn, i golli allan ar eu hawliau pensiwn.

"A’i dyma’r ffordd y dylid gwobrwyo’r bobl hynny sy’n peryglu eu bywydau i amddiffyn eraill, trwy wrthod cytundeb pensiwn teg a chyfiawn iddyn nhw.

"Mae ond yn deg bod ymroddiad oes o weithio yn cael ei wobrwyo â phensiwn teg. Rwy’n galw ar y Llywodraeth i drafod hyn a chynnig cytundeb well i ymladdwyr tân.”
 
O dan newidiadau y Llywodraeth, disgwylir i ymladdwyr tân weithio ar y rhengoedd blaen yn ymladd tân ac achub pobl o’u tai hyd nes eu bod yn 60 oed.

Hefyd, byddai’r newidiadau yn gorfodi ymladdwyr tân sydd yn eu 50au adael y gwasanaeth oherwydd eu bod yn methu cyflawni eu dyletswyddau llawn, gan golli allan ar eu hawliau pensiwn. 
 
Dywedodd Shane Price, Ysgrifenydd Gogledd Cymru i’r FBU: “Llywodraeth San Steffan sydd wedi achosi’r llanastr yma.

Yr wythnos diwethaf cafodd y streic ei gohirio ar yr amod bod y Llywodraeth am daclo’r ffaith fod ymladdwyr tân yn wynebu cael eu diswyddo am fethu profion ffitrwydd, cyn dweud yr wythnos yma nad oedd posib cynnig unrhyw sicrwydd.

"Nid dyma’r ffordd i redeg gwasanaeth cyhoeddus.

"Mae’n gwbl afreal disgwyl i ymladdwyr tân yn eu 60au ymgymryd â gwaith achub o adeiladau ar dân ynghyd â gwaith eraill.

"Mae adroddiad Williams y Llywodraeth yn dangos bod rhan fwyaf o ymladdwyr tân yn methu a gweithio ymhellach na 55.    
 
"Tydi ymladdwyr tân Gogledd Cymru ynghyd â gweddill Cymru a Lloegr eisiau mynd allan ar streic ond dyma’r unig gam sydd ganddyn nhw ar ôl.”
 
Aelod Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams yw prif noddwr Cynnig Bore Bach (EDM) 541sydd hefyd wedi ei arwyddo gan Aelodau Seneddol Plaid, Elfyn Llwyd a Jonathan Edwards ynghyd â ASau o’r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r SDLP. 
 

Rhannu |