Mwy o Newyddion
Treth Stafell Wely - Plaid Cymru yn condemnio methiant Llafur
Mae'r Dr Dai Lloyd, ymgeisydd Plaid Cymru yn Abertawe, wedi ymosod ar Aelodau Seneddol Llafur am fethu ag atal cynlluniau llywodraeth Llundain i godi treth ystafell wely.
Mae hyn yn dilyn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin yn gynharach yr wythnos hon (Nos Fawrth 12 Tachwedd 2013) ble methodd tua deugain o Aelodau Seneddol Llafur â gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i reolau Budd Cartrefu.
Ymhlith y rhain a fu'n absennol o'r bleidlais oedd AS Llafur dros Orllewin Abertawe, Geraint Davies.
Dywed Dr Dai Lloyd y gallai treth ystafell wely'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn "gyflafan wirioneddol" i'r 40,000 o bobl a effeithir yng Nghymru.
"Mae'r rhain yn cynnwys llawer o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned, pobl y gwelaf bob dydd yn fy meddygfa yn Abertawe," medd Dr Lloyd, sy'n feddyg teulu yn yr ardal.
"Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif y bydd y mesurau hyn yn sugno rhyw £26.7 miliwn allan o'r economi Gymreig yn y flwyddyn ariannol hon - a miloedd o deuluoedd yng Nghymru eisoes yn brwydro i gadw eu pennau uwchben y dŵr.
"Ar adeg fel hon, mae hawl gyda ni ddisgwyl i'n Haelodau Seneddol ymladd dros fuddiannau eu hetholwyr, ac edrychwn ni ymlaen i glywed y rheswm am y methiant trychinebus hwn gan ASau Llafur.
"Dyma wedi'r cwbl oedd cynnig yr Wrthblaid, un oedd y Blaid Lafur ei hun wedi'i gyflwyno.
"Yr eironi chwerw yw mai dim ond 26 oedd mwyafrif llywodraeth Llundain. Pe byddai'r ASau Llafur absennol wedi troi lan i bleidleisio ar eu cynnig eu hunain, fe fyddai'r cynnig wedi'i ennill, gan achosi embaras mawr i'r llywodraeth."