Mwy o Newyddion
Arwyr chwaraeon Cymru yn galw am ddiwedd i drais yn erbyn merched
Mae Undeb Rygbi Cymru yn cefnogi'r ymgyrch Nid yn fy Enw I sy’n galw ar ddynion i siarad allan yn erbyn trais tuag at ferched.
Yr wythnos yma, cymerodd aelodau Sgwad Cymru saib oddi wrth eu hymarferion ar gyfer y gwrthdaro yng Nghyfres Dove Men yn erbyn yr Ariannin, i lofnodi hysbyslen o ruban gwyn enfawr, yn symboleiddio'r ymgyrch sy’n galw ar ddynion a bechgyn i addo peidio byth â chyflawni, cydoddef neu gadw’n dawel am drais yn erbyn merched.
Sefydlwyd yr ymgyrch Nid yn fy Enw I gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru ar y cyd â Joyce Watson AC, Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru i recriwtio llysgenhadon gwrywaidd i siarad allan yn erbyn trais tuag at ferched o flaen Diwrnod Rhuban Gwyn Rhyngwladol ar 25 Tachwedd.
Dywed Ann Jones, Cadeirydd FfCSYM-Cymru: “Mae’n annerbyniol bod trais yn erbyn merched yn parhau yng nghymdeithas heddiw a fydd un o bob pedair merch yng Nghymru yn profi trais domestig drwy law cymar yn ystod eu bywydau. Mae’n angenrheidiol bod dynion yn siarad allan i helpu creu newid-ddiwylliant lle nad yw trais yn erbyn merched yn cael ei oddef.”
Dywed Roger Lewis, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru: “Mae trais domestig yn fater difrifol dros ben ac mae Undeb Rygbi Cymru yn fodlon unwaith eto i ymuno â’r genedl drwy gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn Rhyngwladol ar 25 Tachwedd a chodi ymwybyddiaeth arwyddocaol i ddileu trais yn erbyn merched.”
Dywed Joyce Watson AC: “Drwy lofnodi ‘r addewid Nid yn fy Enw I a gwisgo ruban gwyn, gall ddynion ymhob man ddanfon allan neges gref - nid yw trais domestig yn dderbyniol, ni ddylai gael ei anwybyddu ac ni ddylai gael ei esgusodi.”
Llun: Ian Evans a Ken Owens yn dala’r rhuban gwyn wedi’i lofnodi gan aelodau Tîm Rygbi Cymru