Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2013

Tir i’w ddatblygu yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

Mae safle gwaith sydd o bwysigrwydd strategol o eiddo Llywodraeth Cymru yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau wedi cael ei roi ar y farchnad eiddo genedlaethol a rhyngwladol gan Knight Frank.

Mae Bwrdd y Fenter wedi nodi bod y 210 erw o dir sydd yn Waterston yn berffaith i ddatblygu potensial ardal y Ddau Gleddau.

Mae’r safle, sy’n cynnwys tri pharsel o dir ar arfordir Sir Benfro rhwng Aberdaugleddau a phentref Waterson yn cyd-ffinio â chyfleuster storio tanciau LNG a fferm danciau SEM Logistics.

Mae gan y tir arfordir, a glanfa at y ddyfrffordd.  Ynghanol y safle, mae rheilffordd sy’n rhan o’r rhwydwaith genedlaethol.

Mae swyddfa Knight Frank yng Nghaerdydd yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal prosiect sy’n ymwneud ag ynni ac i ddatblygu’r porthladd i gysylltu â hwy.

Dywedodd Nick Bourne, Cadeirydd yr Ardal Fenter:  “Rwy’n hapus iawn bod y safle pwysig hwn yn y Ddau Gleddau ar y  farchnad.  Mae manteision strategol pwysig i’r safle hwn ac mae’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau o’i blaid hefyd. 

Dywedodd Stuart Munro o Knight Frank: “Dyma’r unig safle sydd ar ôl yn y Ddau Gleddau sydd heb ei ddatblygu; byddai’n bosibl adeiladu cyswllt â’r porthladd dŵr dwfn, naturiol yma.  Ardal Aberdaugleddau yw un o ganolfannau ynni pwysicaf y Deyrnas Unedig,  Ceir yma weithlu medrus ac rydym yn awyddus i ddenu cwmnïau allai ddatblygu’r ardal a’i hatgyfnerthu.”

Bellach, mae tua 25% o gyflenwadau ynni’r DU yn teithio trwy Sir Benfro ac yn cyfrannu dros £2 biliwn y flwyddyn i’r Trysorlys.  Mae Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau mewn sefyllfa berffaith i adeiladu ar enw da’r ardal fel ‘Prifddinas Ynni’ y DU. 

Llun: Nick Bourne

Rhannu |