Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2013

Chwifio'r faner i ddechrau Rali Cymru Prydain Fawr

Heddiw (dydd Iau, 14 Tachwedd), bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn chwifio'r faner i ddechrau Rali Cymru Prydain Fawr yng Ngogledd Cymru.

Bydd Castell Conwy yn gefndir ysblennydd i Seremoni Agoriadol Rali Cymru Prydain Fawr a disgwylir i'r digwyddiad ddenu torf fawr. Bydd y seremoni clo yn cael ei chynnal yn Llandudno brynhawn dydd Sul.

Cynhelir cymal "Rali'r Anfarwolion" dros bedwar diwrnod (14-17 Tachwedd). Y cymal hwn fydd rownd derfynol Pencampwriaeth Rali’r Byd yr FIA 2013 ac fe'i ystyrir yn un o ddigwyddiadau mwyaf heriol a deniadol calendr yr FIA.

Gan siarad cyn dechrau'r Rali, dywedodd y Gweinidog: “Rwyf wrth fy modd bod Cymru'n cynnal y digwyddiad chwaraeon hwn sydd gyda'r gorau yn y byd.”

“Bydd golygfeydd a thirlun ysblennydd y Gogledd nid yn unig yn profi gallu gyrrwyr gorau'r byd, ond bydd hefyd yn gyfle perffaith i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae Cymru wedi mwynhau rasio arbennig ar hyd y blynyddoedd ac rwy'n hyderus y bydd Rali Cymru Prydain Fawr 2013 yr un peth."

“Mae'r digwyddiad hwn bob amser yn denu torf enfawr gan roi hwb mawr i'r economi leol. Rwy'n hyderus y bydd y penderfyniad i symud y cymal i'r Gogledd – a'r ffaith bod y seremonïau agoriadol a chlo am ddim - yn denu cynulleidfa fawr ac y bydd yn Rali Cymru Prydain Fawr llwyddiannus sy'n sicr o roi gwefr fythgofiadwy i'r dorf.”

Bydd llawer o geir mwyaf rhyfeddol y byd yn rhoi gwledd i lygaid y dorf yn y RallyFest yng Nghastell y Waun yn hwyrach ymlaen y mis hwn ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd. Mae cymalau newydd RallyFest wedi’u llunio i gyfoethogi profiad gwylwyr o bob oed drwy gynnig diwrnod llawn adloniant yn ogystal â’r wefr a’r cyffro arferol sy’n rhan o gymal mewn rali.

Cynhelir Rali Cymru Prydain Fawr eleni mewn Park Gwasanaethau pwrpasol newydd sbon yng Ngogledd Cymru wrth ymyl Gwaith Injans Toyota ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy.  Mae Llywodraeth Cymru ac International Motor Sports, trefnwyr y digwyddiad, wedi buddsoddi gwerth £250,000 yn y safle.

Rhannu |