Mwy o Newyddion
‘Cydweithio’ ar Sul yr Urdd
Mai’n drydydd Sul mis Tachwedd, a Sul arbennig yng nghalendr blynyddol mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru, Sul yr Urdd.
Y Sul hwn, 17 o Dachwedd 2013, dethlir gwaith ieuenctid Cymru mewn gwasanaethau ledled Cymru a hynny ar y thema ‘Cydweithio’.
Mae tri gwasanaeth arbennig wedi eu creu ar y thema, a hynny ar gyfer oedfaon, ieuenctid oed uwchradd ac ieuenctid oed cynradd.
Y Parchedig Owain Llŷr Evans, Caerdydd fu wrth y llyw yn paratoi’r gwasanaethau gan rannu neges o gydweithio trwy ddyfynnu straeon Pobl yr Enfys, Hasan a darnau o’r Gwynfydau.
Elfen arall o’r gwasanaethau fydd darn o ‘Gredo’ Ifan ab Owen Edwards sy’n dyfynnu’r adnod adnabyddus: ‘Credaf yn syml gredo Paul mewn ffydd, gobaith a chariad, gan wybod mai’r olaf hyn yw’r mwyaf.’
Am gopïau o’r tri gwasanaeth, ewch i adran ‘Dyngarol’ gwefan yr Urdd, www.urdd.org