Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2013

Galw ar Pepsico i ddilyn Coke

Heddiw ar strydoedd Caerdydd fe wnaed y ddinas yn llwyfan i berfformwyr ac ymgyrchwyr gyda Oxfam Cymru mewn drama fyw ar y stryd.

Bwriad yr actorion yn ogystal ac ymgyrchwyr yr elusen oedd creu drama fyw am ffermwyr yn cael eu taflu oddi ar eu tir er mwyn gwneud lle ar gyfer melinau siwgr o amgylch y byd.

Yn dilyn cyhoeddiad gan gwmni mawr Coca-Cola yr wythnos diwethaf i ymrwymo i 'oddef dim' ar bachu tir, fe gymerodd Oxfam Cymru i'r stryd yng Nghaerdydd er mwyn galw nawr ar PepsiCo i wneud yr un modd.

Dywedodd Louise Weinzweig Cydlynydd Cyfathrebu ac Ymgyrchu gyda Oxfam Cymru: "Rydyn ni eisiau ail greu beth sydd yn digwydd go iawn mewn ardaloedd ar draws y byd, er mwyn dangos i Gymru beth yw'r problemau sydd yn wynebu nifer o bobl yn y byd.

"Mae Oxfam wedi gwneud gwaith ymchwil dwys yn maes bachu tir ac yn y sector siwgr cansen yn arbennig yn Cambodia ac yn Brazil.

"Yn aml mae'r tir wedi cael ei gymeryd oddi wrth y bobl mewn dull dreisgar ac yn aml heb ganiatâd.

"Mae hyn i gyd yn rhan o ymgyrch Tu ôl i'r Brand ac mae cyhoeddiad Coca-Cola yr wythnos diwethaf nawr yn gyfle i gwmniau mawr bwyd a diod i ddilyn ei esiampl.

"Mae dros 225,000 o bobl wedi cefnogi ein hymgyrch ni, mae Coke wedi gwrando ac wedi ymateb yn gadarnhaol. Nawr rydyn ni am weld PepsiCo yn gwneud yr un peth."

Rhannu |