Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2013

Plaid Cymru yn galw eto am fanc newydd Cymreig

Cyn cyhoeddi’r adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ar gyllido Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh), mae Plaid Cymru wedi galw eto am sefydlu banc nid-am-elw newydd, hyd braich mewn perchenogaeth gyhoeddus i fenthyca arian i fusnesau bach.

Cyflwynodd Plaid Cymru dystiolaeth i’r comisiwn yn datgan eu cynigion hwy, yn galw ar i’r llywodraeth weithredu er lles busnesau Cymru ac i sefydlu corff newydd allai fenthyca i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol, gan annog twf economaidd a galluogi busnesau ledled Cymru i ffynnu ac ehangu.

Meddai Gweinidog cysgodol Plaid Cymru ar yr Economi, Alun Ffred Jones: “Mae mynediad at gyllid wedi ei grybwyll yn gyson fel rhwystr i dwf llawer BBaCh ac y mae ymdrechion presennol y llywodraeth i ymdrin â’r mater yn methu.

“Mae hyd at 99% o fusnesau yng Nghymru yn BBaCh – dylai hyn roi’r holl symbyliad y mae Llywodraeth Cymru angen i weithredu er lles busnesau Cymru.

“Mae safbwynt Plaid Cymru yn glir. Mae arnom angen corff newydd, ym meddiant y cyhoedd ond bellter hyd braich oddi wrth y llywodraeth i fenthyca arian i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol.

“Mae sicrhau llif arian i fusnesau, yn enwedig busnesau bach, yn allweddol o ran creu gwaith a chadw olwynion yr economi’n troi. Mae’n hanfodol i’n BBaCh allu cyrraedd yr adnoddau mae arnynt eu hangen er mwyn gweithredu’n effeithiol a ffynnu fel y gall economi Cymru dyfu eto.” 

Rhannu |