Mwy o Newyddion
Cyhoeddi rhaglen bedair mlynedd i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Sain Ffagan
Ar ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd 2013, caiff Gwasanaeth Coffa ei gynnal ger Cofeb Ryfel Trecelyn – a saif bellach yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Ymhlith y gynulleidfa am 10.50am bydd y Dirprwy Arglwydd Raglaw – yr Asgell Gadlywydd Graham Morgan, cangen Trecelyn y Lleng Brydeinig a nifer o gyn-filwyr, yno i goffau aberth milwyr y ddau Ryfel Byd, a rhyfeloedd eraill.
Cyn y gwasanaeth eleni, bydd y Parchedig Jefford yn arwain gorymdaith o brif fynedfa’r Amgueddfa at y gofeb, gan ddechrau am 10:30am, cyn cynnal dwy funud o dawelwch am 11am. Mae croeso i ymwelwyr fynychu’r gwasanaeth coffa, sy’n cynnwys seremoni gosod torch.
Wedi’r gwasanaeth (11.30am – 1pm), bydd curaduron Sain Ffagan a nifer o’r amgueddfeydd cenedlaethol eraill yn ymgynnull yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale i rannu straeon, gwybodaeth am ddigwyddiadau ac i dangos gwrthrychau, fydd yn rhan o raglen pedair mlynedd yr Amgueddfa i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Dros y pedair mlynedd, bydd saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru yn adrodd storiâu pobl Cymru ac yn edrych ar yr effaith unigryw ar fywyd bob dydd. Ymhlith y digwyddiadau allweddol a gaiff eu trin bydd brwydrau Coedwig Mametz, a Passchendaele, marwolaeth Hedd Wyn a diwedd y Rhyfel.
Bydd arddangosfa gyntaf y rhaglen yn agor ar 2 Awst 2014 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Casgliad fydd Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf
o gyfres o brintiau lithograff a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r frwydr. Cyfrannwyd delweddau gan nifer o artistiaid ac maent yn dangos y newid agwedd, fel gyda rôl y fenyw er enghraifft, yn ystod y rhyfel.
Hefyd blwyddyn nesaf, bydd staff pob amgueddfa genedlaethol yn annog y cyhoedd i helpu gyda’r gwaith o blannu cannoedd o hadau pabi. Bydd y blodau’n atgof blynyddol yn ystod y cofio ac yn fan i gyfarfod a myfyrio.
O 2015, bydd Sain Ffagan yn gweithio gyda chymunedau i ddadorchuddio hanes rhai o’r adeiladau hanesyddol ar y safle adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys rôl Castell Sain Ffagan yn ystod y rhyfel.
Mae’r rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn datblygu’n barhaus a hefyd yn cynnwys:
· Diwydiant Gwlân dan Gwmwl Du (Medi 2014) Bydd Amgueddfa Wlân Cymru yn edrych ar ymgyrchu taer y diwydiant gwlân am gytundebau gwaith i gadw’r melinau ar agor, a defnyddio hunaniaeth Gymreig fel arf recriwtio;
· Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Mawr (Hydref 2014) Arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ymchwilio i effaith anferthol y Rhyfel Byd Cyntaf ar ddiwydiant yng Nghymru, a chyfraniad y diwydiannau hynny at y rhyfel;
· Angau o’r Awyr (31 Ionawr 2015) Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ymchwilio i’r newid mewn arfau a thaflegrau ymladd o bell, fel y catapulta a saethyddiaeth, rhwng oes y Rhufeiniaid a’r Rhyfel Byd Cyntaf;
· Dai a Tomi (2 Chwefror 2015) Roedd sgiliau cloddio glowyr Cymru yn allweddol wrth dwnelu yn y ffosydd – bydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn adrodd eu straeon personol nhw;
· Dros Ryddid ac Ymerodraeth (Gorffennaf 2015) Golwg ar ymateb cymunedau’r chwareli llechi i ymgyrchoedd recriwtio yn Amgueddfa Lechi Cymru.
Trwy gydol y cyfnod coffa, bydd Amgueddfa Cymru yn cynhyrchu cyfres o lyfrynnau i ymhelaethu ar y straeon yma. Am ragor o fanylion am ein rhaglen bedair mlynedd ewch i’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk.
Mae rhaglen goffa Amgueddfa Cymru yn rhan allweddol o raglen Llywodraeth Cymru ar draws y wlad i goffau’r canmlwyddiant, gan yr enw Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914-1918 www.cymruncofio.org.