Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2013

£2.68m ar gyfer llawdriniaethau ar y galon a chyfarpar argyfwng yng Nghaerdydd a’r Fro

Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi cyllid o £2.682 miliwn i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i uwchraddio cyfarpar mewn theatrau cardiaidd, rhoi cyfarpar mewn cilfannau dadebru brys a gwella systemau TGCh yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd £1.293 miliwn o’r cyfanswm yn cael ei wario ar gyfarpar newydd i theatrau cardiaidd, saith pwmp balŵn intra-aortig, pum peiriant arbed celloedd coch y gwaed (cell savers) and phum peiriant dargyfeirio. Bydd £0.250 miliwn yn cael ei wario ar wella'r theatrau cardiaidd.

Bydd £0.453 miliwn yn rhoi cyfarpar i saith cilfan ddadebru yn yr Uned Argyfyngau sydd ar ei newydd wedd yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynnwys cyfarpar monitro, peiriannau ECG a matresi trawma.

Hefyd bydd £0.686 miliwn ar gael i ddiweddaru systemau TGCh Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan wneud y system yn fwy dibynadwy ac felly’n lleihau’r costau gweithredu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yw’r drydedd ysbyty fwyaf yn y DU, a’r fwyaf yng Nghymru. Mae’n darparu ystod enfawr o wasanaethau i filoedd o bobl bob blwyddyn. Mae hefyd yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr meddygol proffesiynol ac yn arwain ar ymchwil arloesol.

"Mae’n hanfodol sicrhau bod gan yr ysbyty’r cyfarpar i fodloni anghenion cleifion; bydd y cyllid hwn yn golygu bod yr ysbyty yn gallu diweddaru’r theatrau cardiaidd, cynyddu’r capasiti yn yr Uned Argyfyngau ac uwchraddio’r systemau TG ar draws y bwrdd iechyd."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Alice Casey, y byddai’r cyfarpar newydd yn gwneud gwahaniaeth pwysig i’r cleifion a’r staff.

Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion ffantastig i ni. Rydym eisiau gallu rhoi’r gofal gorau posib i’n cleifion. Rydym hefyd am roi’r cyfarpar diweddaraf a chyfleusterau gwell i’n staff.

"Diolch i’r buddsoddiad hwn, gallwn gymryd cam yn nes at wireddu’r uchelgeisiau hyn."

Dywedodd Charlotte Moar, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wrth siarad am y buddsoddiad sydd wedi dod i law i wella’r systemau TGCh, fod cael seilwaith TGCh o safon yn hollbwysig ar gyfer gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau.

"Mae’n hanfodol ein bod yn moderneiddio ein systemau TGCh os ydym am roi’r wybodaeth angenrheidiol i glinigwyr fel eu bod yn gallu rhoi gofal amserol ac effeithiol i gleifion. Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn i’w groesawu’n wresog."

Rhannu |