Mwy o Newyddion
Paratoi ar gyfer Rali'r Anfarwolion
Yr wythnos nesaf (14-17 Tachwedd) cynhelir Rali Cymru Prydain Fawr yn ei chartref newydd yng Ngogledd Cymru. Bydd y digwyddiad yn cyfrannu dros £5miliwn i economi Cymru a bydd Rali'r Anfarwolion yn sicr o roi gwefr fythgofiadwy i’r dorf yng Ngogledd Cymru, beth bynnag eu hoed.
Mae Conwy a Llandudno wrthi’n brysur yn paratoi i gynnal partis mawreddog i groesawu’r achlysur. Castell hanesyddol Conwy fydd yn gefndir i Seremoni Agoriadol rownd derfynol Pencampwriaeth Rali’r Byd yr FIA 2013 nos Iau a bydd y Seremoni Clo yn cael ei chynnal yng nghanol prysurdeb Stryd Mostyn bnawn dydd Sul. Ar ben hyn, gall unrhyw un fwynhau'r seremoni am ddim.
Bydd llawer o geir mwyaf rhyfeddol y byd yn rhoi gwledd i lygaid y dorf yn y RallyFest yng Nghastell Y Waun yn hwyrach ymlaen y mis hwn ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd. Mae cymalau newydd RallyFest wedi’u llunio i gyfoethogi profiad gwylwyr o bob oed drwy gynnig diwrnod llawn o adloniant yn ogystal â’r wefr a’r cyffro arferol sy’n rhan o gymal mewn rali.
Cynhelir Rali Cymru Prydain Fawr GB eleni mewn Park Gwasanaethau pwrpasol newydd sbon yng Ngogledd Cymru wrth ymyl Gwaith Injans Toyota ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy. Mae Llywodraeth Cymru ac International Motor Sports, trefnwyr y digwyddiad, wedi buddsoddi gwerth £250,000 yn y safle.
Mae hyn yn golygu nid yn unig bod gan y timau sy’n cystadlu ddigon o le addas i drin eu ceir technoleg-uchel, bwydo eu personél a diddanu eu gwesteion, ond hefyd bod lle ar gyfer llu o atyniadau ychwanegol. Ar ben hyn, mae mynediad i'r cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy AM DDIM.
Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y buddion sy’n deillio o gynnal digwyddiad rhyngwladol mor nodedig yng Ngogledd Cymru, bydd cyfle i ysgolion lleol flasu profiad Ymwybyddiaeth o Ddiwydiant pwrpasol yn y Parc Gwasanaethau.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu mwy am ddylunio, gweithgynhyrchu a thechnoleg ac yn rhoi cipolwg iddynt ar y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt os ydynt yn parhau i astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.
Yn ogystal â chael y cyfle i gael golwg manwl ar y ceir technoleg-uchel sy'n cystadlu ar reng flaen Pencampwriaeth Rali’r Byd, bydd y rhai sy’n bresennol hefyd yn cael cyfle i gyfrannu at arbrofion diweddaraf Techniquest, Technocamps, cymryd rhan yn Her 2D Jaguar Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (CABC) ac mewn nifer o weithgareddau ymarferol gyda chwmnïau gweithgynhyrchu lleol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn cydweithio â Fforwm Moduron Cymru ar Autolink (Cymru) 2013. Cynhelir yr arddangosfa a’r gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno ar ddydd Iau 14 Tachwedd, ychydig oriau cyn y bydd rownd derfynol Pencampwriaeth Rali'r Byd yn cychwyn.
Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at gyfleoedd a fydd ar gael yn y dyfodol ar gyfer cynnyrch peirianneg yn y prif ddiwydiant cerbydau. Bydd yr achlysur yn dod â chynrychiolwyr at ei gilydd o gwmnïau technoleg meddalwedd ac electronig, awyrofod a cherbydau.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Garel Rhys CBE, thema ganolog y digwyddiad fydd technolegau storio ynni a phwerwaith y dyfodol, a’r cyfleoedd sydd ar gael yn y gadwyn gyflenwi o ran systemau a chydrannau.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: “Mae'r sector cerbydau yng Nghymru yn cynnwys oddeutu 150 o gwmnïau gweithgynhyrchu systemau a chydrannau ac yn cyflogi 15,000 o bobl ym maes gweithgynhyrchu cerbydau gyda throsiant blynyddol o £3biliwn.
"Mae ein cefnogaeth i Rali Cymru Prydain Fawr yn ysgogydd pwysig o ran cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer creu swyddi, cyfoeth a thwf cynaliadwy.
“Mae economi Cymru yn cael hwb uniongyrchol yn sgil Rali Cymru Prydain Fawr wrth i dimau, stiwardiaid, busnesau a gwylwyr wario symiau sylweddol o arian ar lety, bwyd, diod a lletygarwch – cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.
“Mae mwy o gyfle nag erioed o'r blaen i'r holl deulu gymryd rhan yn y digwyddiad eleni. Bydd y seremonïau agor a chloi a'r RallyFest yng Nghastell y Waun yn creu ymdeimlad gwirioneddol o achlysur yn yr ardal.
“Mae’r digwyddiad chwaraeon hwn, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn llwyfan delfrydol i ddangos i’r byd yr hyn sydd gan Cymru i'w gynnig. Rwyf yn edrych ymlaen at fod yn bresennol yn y digwyddiad yr wythnos nesaf ac rwyf yn sicr y bydd rownd derfynol Pencampwriaeth Rali’r Byd 2013 yr FIA yng Ngogledd Cymru yn llwyddiant ysgubol.”