Mwy o Newyddion
Lansio ymgyrch entrepreneuriaid Cymru
Mae ymgyrch mis o hyd wedi’i lansio i annog pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain yng Nghymru.
Caiff cyfres o ddigwyddiadau eu cynnal ar draws y wlad a bydd ymgyrch ar-lein ac ar y radio i’w marchnata, gyda’r nod o arddangos a hyrwyddo Gwasanaeth Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru.
Ers 2008, mae Gwasanaeth Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru wedi helpu i sefydlu bron 7,042 o fentrau newydd a chreu mwy na 13,788 o swyddi – a disgwylir y bydd 8,812 yn rhagor o swyddi yn cael eu creu erbyn mis Mehefin 2015.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae entrepreneuriaid sydd â natur fentrus yn hanfodol er mwyn adeiladu economi gref a lledaenu llewyrch drwy greu swyddi.
“Drwy’r Gwasanaeth Dechrau Busnes, gall Llywodraeth Cymru roi arweiniad, cyngor a chymorth i bobl sy’n ystyried sefydlu eu busnes eu hunain. Mae’r ymgyrch hon yn pwysleisio’r cymorth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at rai o’r llwyddiannau yma yng Nghymru.
“Mae gennyn ni llawer o dalent yng Nghymru a dw i am sicrhau bod entrepreneuriaid yn cael cyfle i fanteisio ar y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i wireddu eu syniadau.”
Caiff yr ymgyrch ddigidol ei rhedeg ar y cyd â digwyddiadau Marchnad Cymru i ddwyn sylw at lwyddiannau busnesau bach lleol, a’u dathlu.
Mae digwyddiadau Marchnad Cymru yn rhoi llwyfan i fusnesau bach ledled Cymru sydd wedi derbyn cymorth busnes drwy Wasanaeth Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru. Cânt eu cynnal yn:
· Yr Aes, Marchnad Nadolig Caerdydd (14 – 23 Tachwedd)
· Y Ffair Geltaidd ym Mharc Brychdyn (27 Tachwedd – 1 Rhagfyr)
Yn ogystal, mae’r gweithgareddau canlynol wedi’u trefnu:
· I barhau â llwyddiant cynhadledd 'Entrepreneuriaid Cymru 2012’, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o nosweithiau ar ‘wneud Cymru’n lle gwell i entrepreneuriaid a’u busnesau’.
· Bydd cyw-entrepreneuriaid o Goleg Llandrillo/Menai, Coleg Cambria a Choleg Ceredigion yn arddangos eu syniadau busnes arloesol yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac Aberystwyth.
Caiff mwy na 200 o ddigwyddiadau eu cynnal ledled Cymru gan wahanol fudiadau a sefydliadau i hyrwyddo Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd (18-24 Tachwedd).
Mae rhagor o wybodaeth ar y digwyddiadau hyn ar gael ar wefan Busnes Cymru: busnes.cymru.gov.uk/entwales2013