Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2013

Y Prif Weinidog yn croesawu Llysgennad UDA

Ddoe, croesawodd y Prif Weinidog Carwyn Jones Lysgennad yr Unol Daleithiau i’r Deyrnas Unedig, Matthew Barzun, i Gymru i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi pellach rhwng y ddwy wlad.

Daeth y cyfarfod yn dilyn taith fasnach lwyddiannus i San Francisco ym mis Ionawr, lle arweiniodd y Prif Weinidog gynrychiolaeth o gwmnïau o Gymru, gan gwrdd â busnesau ac arweinwyr gwleidyddol ac academaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: Yr Unol Daleithiau yw grym economaidd pennaf y byd o hyd ac mae meithrin cysylltiadau cryf gyda busnesau’r wlad yn hanfodol i Gymru.

"Dyma’r wlad sy’n buddsoddi fwyaf yng Nghymru a dyma’n marchnad allforio fwyaf, gyda bron 300 o gwmnïau Americanaidd yn weithredol yng Nghymru a gwerth bron £3 biliwn o gynnyrch o Gymru yn cael ei allforio i’r Unol Daleithiau yn 2012.

“Rydyn ni eisiau meithrin y cysylltiadau hyn ymhellach fyth, gan agor drysau i fusnesau o Gymru fanteisio ar y farchnad Americanaidd ac annog buddsoddiad yng Nghymru gan gwmnïau o’r Unol Daleithiau.

"Dyna pam yr arweiniais daith fasnach i San Francisco a’r Silicon Valley yn gynharach eleni a dyna pam fy mod i mor falch bod y Llysgennad Barzun wedi dod i Gymru."

Rhannu |