Mwy o Newyddion
Preswyliad artistig mewn dau gartref gofal
Mae project Pontio wedi cychwyn ail breswyliad artistig – gan adeiladu ar lwyddiant “Corneli Cudd” y llynedd, a gynhaliwyd yng nghartref gofal Plas Hedd ym Maesgeirchen, Bangor.
O 4 Tachwedd, bydd y cerddor Manon Llwyd yn treulio mis cyfan yn rhannu bywydau beunyddiol preswylwyr dau gartref gofal a nyrsio ym Mangor, sef Plas Hedd unwaith eto, a Brynllifon, dau gartref lle mae llawer o’r preswylwyr yn dioddef o ddementia. Bwriad y prosiect, sy’n rhan o raglen gelfyddydau Pontio, yw ymestyn at gynulleidfaoedd newydd a mynd â phrofiadau allan i’r gymuned mewn modd ystyrlon.
Ym mhrosiect “Corneli Cudd” y flwyddyn hon, bydd 16 o gerddorion ifainc o Ysgol Tryfan yn ymuno â Manon mewn grwpiau bychain. Bydd y tîm yn mynd â cherddoriaeth i bob cornel, ac yn chwarae cerddoriaeth offerynnol a lleisiol mewn modd hyblyg gan deilwrio’r chwarae i anghenion y preswylwyr.
Yn ystod y cyfnod preswyl, bydd Dr Gwawr Ifan, darlithydd Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Bangor, yn ymchwilio i brofiad y bobl ifanc. Y gobaith yw y bydd artistiaid y dyfodol yn gallu cael budd o’r astudiaeth.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: “Yr elfen rhyng-genedlaethol sy’n wahanol ynglŷn â’r preswyliad eleni. Bydd hwn yn brofiad newydd i’r cerddorion ifainc hyn, lawer ohonynt yn aelodau o fand jazz rhagorol Tryfan, ac i’r preswylwyr sydd, llawer ohonyn nhw yn gaeth i’w stafelloedd oherwydd problemau iechyd.
"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn mynd â’r celfyddydau allan at bawb ac yn addasu’r profiad i’w hanghenion penodol.
“Gan adeiladu ar ein perthynas â Phlas Hedd a chyfoethogi’r profiad yn ei grynswth ag offerynnau a gwaed cerddorol newydd, bydd Manon a’i thîm yn treulio mis yn dod yn rhan o gymunedau’r cartrefI mewn modd holistig a chyda cherddoriaeth fel y gyfrwng.
“Mae’r gwaith hwn hefyd yn rhan bwysig o ymchwil i’r celfyddydau a dementia a arweinir gan Pontio – a’r rhaglen gelfyddydau. Rydym yn awyddus i sicrhau bod preswyliadau dwys megis Corneli Cudd 2 yn dod yn rhan ganolog o’r berthynas rhwng Pontio a’r gymuned.”