Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2013

Dechrau trwsio morglawdd Bae Langland

Mae disgwyl i waith trwsio'r morglawdd ym Mae Langland yn Abertawe ddechrau ym mis Tachwedd.

Cwympodd ran o'r morglawdd yn Langland ym mis Hydref 2012. Cwympodd y wal oherwydd tywydd stormus a llanw uchel rheolaidd yn ystod y flwyddyn honno.

Roedd yn rhaid i Gyngor Abertawe ddargyfeirio llwybr cyhoeddus a chreu llwybr estyll dros dro er mwyn rhoi mynediad i'r rhai a oedd am ddefnyddio'r traeth a'r rhai a oedd am ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru Gyfan dros yr haf.

Bellach mae'r cyngor am ddechrau ar y gwaith i ailadeiladu'r wal, gan ddefnyddio calchfaen i gyd-fynd â'r gwaith carreg sydd eisoes yn y safle.

Meddai June Burtonshaw, Aelod y Cabinet dros Leoedd, "Un o brif atyniadau a chryfderau Abertawe yw ei harfordir. Ar adegau, gall y tywydd gwael gael effaith arni.

"Gwnaed popeth ers i'r wal gwympo i darfu cyn lleied â phosib ar ymwelwyr â Langland dros yr haf.

"Roeddem wedi addo sicrhau gwneud y gwaith atgyweirio unwaith y byddai'r tymor yn dod i ben a dyna beth rydym yn ei wneud."

Disgwylir i'r gwaith gymryd rhwng 2 a 3 mis a bydd wedi'i gwblhau erbyn dechrau'r tymor twristiaeth ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Caiff y gwaith atgyweirio ei gwblhau fel rhan o Bartneriaeth Priffyrdd Abertawe sy'n bartneriaeth ar y cyd rhwng y cyngor, Alun Griffiths Contractors a Hanson Contracting. 

Rhannu |