Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Tachwedd 2013

Estyn cyfnod darparu triniaeth sy'n atal pobl rhag colli eu golwg

Mae cyfnod darparu triniaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o gyflwr sy'n dirywio'r llygad wedi'i estyn gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Mae Dirywiad Macwlaidd Gwlyb sy'n Gysylltiedig â Henaint (AMD Gwlyb) yn digwydd pan fydd celloedd y macwla, sy'n rhan fechan o'r retina yng nghefn y llygad, yn peidio â gweithio'n iawn, ac fel canlyniad mae'r corff yn dechrau tyfu pibelli gwaed newydd i ddatrys y broblem. Mae'r pibelli gwaed hyn yn tyfu yn y lle anghywir ac yn achosi chwyddo a gwaedu o dan y macwla.

Mae'r tyfiant newydd hwn o bibelli gwaed yn achosi mwy o niwed i'r macwla, ac yn y pen draw'n arwain at greithio. At ei gilydd, mae'r pibelli gwaed newydd a'r creithio'n gwneud niwed i'r golwg canolog, a gall arwain at fan gwag yng nghanol y golwg.

Mae trin AMD Gwlyb, gan ddefnyddio'r cyffur Lucentis, wedi'i ariannu'n ganolog gan Lywodraeth Cymru ers 2008. Lucentis, oedd yr unig gyffur trwyddedig a chost-effeithiol oedd ar gael ar y pryd. Caiff ei chwistrellu'n uniongyrchol i'r llygad, ac argymhellir cyfnod o bedair wythnos rhwng y pigiadau.

Bellach mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi argymell Aflibercept fel triniaeth gost-effeithiol arall ar gyfer AMD Gwlyb. Caiff y cyffur hwnnw ei chwistrellu i'r llygad hefyd, ond ar ôl tri phigiad cychwynnol fesul mis, mae angen pigiadau dilynol ar gleifion bob wyth wythnos yn unig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd: "Mae cost gweinyddu Aflibercept a Lucentis yr un fath, ond mae'n bosibl y gall darparu'r driniaeth newydd hon ar gyfer AMD Gwlyb sicrhau arbedion ar gostau, oherwydd y cyfnodau hwy rhwng y triniaethau. Bydd hefyd yn rhyddhau adnoddau gwasanaeth llygaid yr ysbytai, ac yn lleihau'r baich ar gleifion sy'n cael y pigiadau misol ar hyn o bryd. Byddwn yn monitro'r maes hwn yn fanwl dros y misoedd nesaf wrth i'r gwasanaeth newydd hwn ddatblygu.

"Mae Cymru wedi ennill enw da wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau gofal iechyd llygaid. Mae proffil gofal iechyd llygaid wedi codi'n sylweddol yn ystod y deuddeg mis diwethaf, yn sgil cael trafodaethau mewn dau gyfarfod llawn y llynedd, a lansio'r Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid ym mis Medi eleni."

Rhannu |