Mwy o Newyddion
Ymgyrchwyr Cymru’n dod at ei gilydd er mwyn rhoi stop ar y bil ‘rhoi taw’
MAE grwpiau gwirfoddol yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi stop ar y Bil Lobïo dadleuol ar frys, gan eu bod yn ei ystyried yn fygythiad i ryddid barn.
Dywedodd Graham Benfield OBE, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC): “Mae elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru yn pryderu’n fawr am effaith y bil hwn."
Ychwanegodd: "Gallai lesteirio trafodaeth gyhoeddus cyn etholiadau’r Deyrnas Unedig a’r Cynulliad, ac mae’r bygythiad mor ddifrifol mae yna ymchwydd o wrthwynebiad iddo’.
Dywedodd Julian Rosser, Oxfam Cymru: “Carem rwystro’r Bil rhag dod yn ddeddf er mwyn gadael digon o amser i archwilio ei effeithiau tebygol wrth i’r etholiad agosáu.”
Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygiad Etholiadol Cymru: “Mae elusennau a grwpiau cymunedol yn chwarae rôl allweddol yn Nemocratiaeth Cymru, boed wrth geisio cyfrannu at ddatblygu polisïau’r llywodraeth neu ymgyrchu dros gadw ysgol leol ar agor. Rwy’n pryderu bydd y Bil Lobïo yn cael effaith iasoer ar bleidleiswyr cyffredin sy’n dod at ei gilydd i ddylanwadu ar newid."
Daw’r pryderon yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mawrth gan y Comisiwn ar Cymdeithas Sifil ac Ymgysylltu Democrataidd yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan sefydliadau allweddol mewn sesiynau a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys un sesiwn yng Nghaerdydd.
Yn ôl yr adroddiad, bydd y Bil yn gwneud i elusennau feddwl ddwywaith cyn ymgyrchu wrth ddynesu at etholiadau am eu bod ofn torri’r gyfraith. Byddai’n cynyddu’n ddramatig y mathau o weithgareddau y bydd yn rhaid i sefydliadau roi cyfrif amdanynt. Bydd elusennau sy’n gweithio mewn partneriaeth ag elusennau eraill yn gyfrifol yn unigol am wariant ar y cyd, gan arwain at bryderon am ‘wariant dwbl’.
Mae amrywiaeth eang o elusennau ac ymgyrchwyr o blaid atal y Bil hwn, yn cynnwys y Gynghrair Cefn Gwlad, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Oxfam Cymru, Shelter Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, CGGC, Cymorth Cristnogol Cymru a Phlant yng Nghymru.
Dywedodd Catriona Williams OBE, prif weithredwr Plant yng Nghymru: “Os daw’r Bil hwn yn ddeddf, ni fyddai’r newidiadau sydd wedi gwella bywydau plant yng Nghymru wedi digwydd. Mae’r pleidiau gwleidyddol yn dibynnu ar sefydliadau gydag arbenigedd i roi syniadau newydd iddynt am bolisïau newydd. Er enghraifft sefydlu Swyddfa’r Comisiynydd Plant.”
Meddai Cathrin Daniel, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru: “Gall y bil gael effaith sylweddol ar waith Cymorth Cristnogol yng Nghymru gan ein bod yn dibynnu ar gefnogaeth gref yr eglwysi a grwpiau gwirfoddol lleol yng Nghymru. Gall y bil yn ei ffurf bresennol gyfyngu ar yr hyn y gall yr eglwysi ei ddweud mewn perthynas â gwaith Cymorth Cristnogol, yn aml lle nad oes modd gwahanu llais ymgyrchu o’n credoau sefydliadol a Christnogol craidd.”
Dywedodd Ceri Dunstan o Shelter Cymu: “Mae gwaith ymgyrchu a lobïo Shelter Cymru wedi’u selio’n benodol ar brofiadau go iawn y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Gallai’r Bil hwn gyfyngu o ddifrif ar y gwaith dan sylw, ac i bob pwrpas, dawelu miloedd o bobl rydym yn gweithio â hwy bob blwyddyn, llawer ohonynt ymhlith y rhai tlotaf ac sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas ac nid oes ganddynt lais arall.”
Dywedodd Rachel Evans o’r Gynghrair Cefn Gwlad: “Mae’n hanfodol bwysig bod lleisiau ein haelodau’n cael eu clywed yn y coridorau gwleidyddol pwerus, a hynny yn San Steffan a Bae Caerdydd, drwy sefydliadau sy’n eu cynrychioli.”
Dywedodd Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru: “Mae gan elusennau, grwpiau ymgyrchu a phobl gyffredin ledled y wlad ran hanfodol i’w chwarae o ran cael dylanwad ar y penderfyniadau sy’n effeithio pob un ohonom - yn awr ac yn y dyfodol. Dro ar ôl tro clywn fod gormod o bobl yn cael eu siomi â gwleidyddiaeth ond nid ydynt yn gwneud unrhyw beth am hyn - bydd y bil hwn yn ei gwneud hi’n amhosibl fwy neu lai i wneud unrhyw beth ac mae hi’n anodd credu fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu rhoi taw ar gymdeithas sifil Cymru fel hyn.”
Yn ôl yr adroddiad, os bydd y Bil yn mynd rhagddo, dylai’r Tŷ’r Arglwyddi ei ddiwygio er mwyn sicrhau nad oes modd i ymgyrchu gwleidyddol amhleidiol ddigwydd wrth ddynesu at etholiadau. Mae’n ychwanegu nad yw daearyddiaeth Cymru a’r angen i gysylltu â phleidleiswyr Cymru yn y ddwy iaith wedi eu cynnwys yn y cynlluniau.
Llun: Julian Rosser o Oxfam Cymru