Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2013

Agor Lôn Gwyrfai

BU dwy chwaer ifanc o Feddgelert, Elliw a Siwan Owen, yn agor llwybr newydd Lôn Gwyrfai, yn swyddogol yr wythnos yma.

Ers ail agor y lein reilffordd rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu yn 2009, fe ddaeth hi’n amlwg fod angen darparu llwybr amgen i gerddwyr, seiclwyr a marchogwyr er mwyn iddyn nhw gael osgoi defnyddio ffordd droellog a chul yr A4085.  Felly, ar ôl penderfynu ar leoliad y llwybr, sicrhau cyllid digonnol i ariannu’r cynllun ac ymgynghori â’r holl dirfeddianwyr a darpar ddefnyddwyr, ym mis Hydref 2011 aethpwyd ati i gynllunio a dechrau’r broses o adeiladu’r llwybr.  

Canlyniad y gwaith hwnnw yw creu’r llwybr hamdden aml-ddefnydd hwn a baratowyd  yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr.  Am 4 ½ milltir, rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert,  mae Lôn Gwyrfai yn arwain drwy amrywiaeth o dirweddau ac yn mynd ar hyd y sarn o gwmpas Llyn y Gadair,  i mewn i Barc y Gadair ac yna ymlaen drwy Goedwig Beddgelert, heibio Hafod Ruffydd Uchaf, cyn teithio i lawr a chyrraedd godre Moel Hebog, Cwm Cloch a phentref Beddgelert.

Wrth groesawu’r llwybr newydd, dywedodd Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Caerwyn Roberts,

“Rwy’n hynod o falch o weld fod bellach ffordd ddiogel sy’n cysylltu pentrefi Beddgelert a Rhyd Ddu.

"Mae’r llwybr yn darparu adnodd arbennig i gymunedau’r ardal yn ogystal ag adnodd i ymwelwyr a gobeithio bydd yn annog mwy o bobl i fentro allan i fwynhau’r awyr iach.

"Mae’n adnodd hefyd fydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ac felly ar gael i ddefnyddwyr pan na fydd hi’n bosib i fentro i’r mynyddoedd.

"Ond un o brif atyniadau’r llwybr hwn yw’r ffaith ei fod yn hybu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lleol yn gynaladwy.

"Drwy ddefnyddio gwasanaeth bws y Sherpa neu wasanaeth Cwmni Rheilffordd Eryri, bydd modd profi cylchdaith ddiddorol o Feddgelert neu Ryd Ddu.

"Drwy gyfuno’r elfennau hyn, a thrwy annog pobl i ddefnyddio’r llwybr, y nod hefyd yw sicrhau ffyniant economaidd i Feddgelert a Rhyd Ddu a’r ardaloedd cyfagos.”

Mae’n dyled ni’n fawr i’r tir feddianwyr am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth, Mrs. Margaret Roberts Bron y Gadair, Mrs Eirian Hughes a’i mab Alwyn Hughes o Fferm Drws y Coed, a’r teulu Owen o Gwm Cloch, ynghyd â pherchnogion y goedwig, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n dyled ni hefyd yn fawr i Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chynllun strategol CAN (Cymunedau a Natur) a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru am ein cynorthwyo i ariannu peth o’r gwaith.”

Ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, ychwanegodd Tim Jones: “Mae Lôn Gwyrfai yn un enghraifft o'r modd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn buddsoddi i greu cyflesterau o'r ansawdd uchaf i bawb fwynhau hamddena yn yr awyr agored. Drwy wneud hyn, rydan ni'n gobeithio rhoi hwb i'r amgylchedd, i'r gymunedd ac i'r economi leol."

Arianwyd 55% o’r cynllun gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a’r gweddill gan gynllun strategol ariannu CAN (Cymunedau a Natur). Cwbwlhawyd y gwaith gan Dimau Llwybrau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ynghyd â chwmni peirianeg sifil G.H. James o Drawsfynydd. Cynlluniwwyd y gwaith gan gamin penaeiri tirlun Harrison Design Development o Sir Fflint.

Ceir mwy o fanylion am y daith, gan gynnwys ehediad dros y llwybr, ar wefan yr Awdurdod, www.eryri-npa.gov.uk.

Llun: Cadeirydd APCE, y Cyngh. Caerwyn Roberts, perchennog tir lleol Mrs Peggy Roberts, Elliw a Siwan Owen

Rhannu |