Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2013

Gwella’r cymorth i bobl â phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos gwelliannau yn yr amseroedd aros ar gyfer pobl sy’n ceisio triniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a gostyngiad yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cyhoeddwyd yr ystadegau – Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru 2012-13 – ochr yn ochr ag Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Sylweddau 2013 Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau 31 Hydref).

Mae hyn yn dangos gostyngiad parhaus yn nifer y marwolaethau yn sgil camddefnyddio sylweddau, o 152 yn 2010, i 137 yn 2011 a 131 yn 2012. Llwyddwyd i achub tua 215 o fywydau ers 2009 drwy’r prosiect naloxone yn y cartref. Mae’r cynllun yn hyfforddi defnyddwyr cyffuriau i ddefnyddio’r cyffur naloxone, ac yn rhoi’r cyffur iddynt. Gall defnyddio’r cyffur hwn wrthdroi effeithiau gorddos o gyffur opiad dros dro.

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi’r diweddaraf ar lwyddiannau strategaeth camddefnyddio sylweddau deg mlynedd Llywodraeth Cymru, ‘Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed’.

Mae’n dangos, ynghyd â chynnydd yn y cymorth sydd ar gael i’r rheini â phroblemau camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, bod ymdrech benodol wedi cael ei gwneud i nodi a delio â chyffuriau seicoweithredol newydd fel meffedron (“meow meow”).

Roedd y llwyddiannau pellach yn y gwaith hwn yn 2012-13 yn cynnwys cynnydd yn y defnydd o’r Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol (DAN 24/7), cynnydd o 2,600 yn nifer y rheini sy’n cymryd rhan yng nghynllun mentora cymheiriaid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a datblygu canllawiau i nodi a chefnogi cyn-filwyr i gael gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Croesawodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y ffigurau, gan ddweud: “Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £50m, ynghyd â strategaeth ddeg mlynedd i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, yn achub ac yn gwella bywydau.

“Rwy’n croesawu’r gostyngiad yn nifer y marwolaethau yng Nghymru yn sgil camddefnyddio cyffuriau, ond mae pob marwolaeth yn drychineb. Rydyn ni’n gwybod bod modd atal y mwyafrif o’r marwolaethau hyn felly byddwn yn parhau i geisio mynd i’r afael â chamddefnyddio drwy’n mentrau addysg ac atal.

“Mae’r ffigurau’n dangos bod camddefnyddio alcohol yn broblem wirioneddol o hyd yng Nghymru. Roedd yn siom bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu gweithredu ar isafswm pris fesul uned, ac rwy’n benderfynol o ddefnyddio pob mesur polisi posibl yng Nghymru i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol, gan gynnwys deddfwriaeth lle bo modd.” 

Rhannu |