Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2013

Camsyniadau yn arwain at brinder o rieni mabwysiedig

Mae camsyniadau camarweiniol yn cyfrannu tuag at brinder sylweddol o rieni mabwysiedig yng Nghymru, hyn yn ôl ymchwil newydd a ryddhawyd heddiw.

Yn ôl ystadegau newydd gan Y BAAF sydd wedi eu rhyddhau yn ystod Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol, mae nifer o gamsyniadau camarweiniol ynglŷn â’r broses o fabwysiadu.  

Er enghraifft, mae'r arolwg yn dangos bod bron i chwarter o oedolion yng Nghymru (24%) yn credu bod 40 yn rhy hen er mwyn gallu mabwysiadu plentyn. Mewn gwirionedd, does dim oedran mwyafrifol ar gyfer darpar fabwysiadwyr o gwbl.

Yn ogystal, mae bron i hanner y rhai a holwyd (44%) yn credu bod bod yn ddi-waith neu dros eu pwysau yn tanseilio gallu i fabwysiadu plentyn mewn i gartref teuluol parhaol. Nid dyma’r gwir, a does dim rhwystrau cyffelyb yn cael eu rhoi ar y rhai sydd â diddordeb mewn mabwysiadu.

Gyda’r nifer o blant Cymreig mewn gofal yn cynyddu hyd at 24% yn y pum mlynedd diwethaf, mae arbenigwyr yn poeni bod y camsyniadau hyn yn rhwystro cannoedd o blant ar draws Cymru rhag darganfod cartref parhaol.

Ar hyn o bryd, mae 5,745 o blant yng ngofal yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gyda dim ond 275 ohonynt yn cael eu mabwysiadu'r llynedd.

Yn ôl yr arolwg gan YouGov ar ran BAAF, mae:

·         31% o bobl Cymru yn ystyried bod incwm isel yn rhwystr er mwyn mabwysiadu.

·         Chwarter yn tybio nad yw unrhyw un ag anabledd yn deilwng fel darpar riant mabwysiedig.

·         Pedwar o bob deg (40%) o bobl Gymreig yn credu y byddai ysmygwyr yn cael eu di-annog rhag mabwysiadu.

Yn ychwanegol, mae dros chwarter (21%) o’r bobl a holwyd yn meddwl nad ydi unigolion sengl yn deilwng er mwyn mabwysiadu. Mae'r elusen yn poeni bod y camsyniad hwn yn cyfrannu tuag at y nifer isel o fabwysiadwyr sengl (9%) y llynedd.

Mae BAAF Cymru yn lansio ymgyrch ar y cyd gydag asiantaethau mabwysiadu megis Barnardo’s, After Adoption, Adoption UK a Chymdeithas Plant Dewi Sant er mwyn annog y rhai sydd yn cysidro mabwysiadu i gymryd y cam cyntaf.

Dywedodd cyfarwyddwraig BAAF Cymru, Wendy Keidan: “Er bod y nifer o blant sydd wedi eu mabwysiadu wedi cynyddu ers Mawrth 2012, mae hi dal yn bryder bod prinder o ddarpar fabwysiadwyr i gymharu â’r nifer o blant sydd yn disgwyl am deuluoedd mabwysiedig.

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos lefelau uchel o gamddealltwriaeth ynghylch rheolau mabwysiadu a rhwystrau – sawl un sydd yn anwiredd llwyr. Nid yw bod yn sengl, dros bwysau nag yn ddiwaith yn rhwystro unrhyw rhag bod yn ddarpar fabwysiadwyr. Awgryma’r nifer isle iawn o fabwysiadwyr hoyw'r llynedd bod camsyniadau hen ffasiwn ynglŷn â mabwysiadu yn rhwystro sawl un rhag rhoi cynnig arni yng Nghymru.

"Mae’r ffeithiau yn syml; mae plant angen sefydlogrwydd, cariad a gwir deimlad o berthynas mewn awyrgylch o gynefin. Gwyddwn fod sawl ffurf i’r cynefinoedd hyn. Does dim ffasiwn beth a’r mabwysiadwyr perffaith ac rydym yn bryderus bod pobl yn peidio rhoi cynnig oherwydd rhyw stereoteip sydd ddim yn wir.

“Mae amcangyfrif bod 300 o blant angen teuluoedd mabwysiedig yng Nghymru pob blwyddyn, sawl plentyn gyda brawd neu chwaer yn ogystal. Mae symud plant trwy drefniadau dros dro sawl gwaith yn ansefydlog.. Rydym yn poeni bod y nifer o blant sydd angen eu mabwysiadu am gynyddu pob blwyddyn os nad ydym yn recriwtio’r nifer o fabwysiadwyr sydd eu hangen ar gyfer y plant hyn. “

Dywedodd Gwenda Thomas, Gweinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol: “Pan mae mabwysiadu o fudd plentyn, ni ddylent gael eu gorfodi i ddisgwyl am deulu parhaol. Mae llawer iawn o waith da yn mynd ymlaen yng Nghymru er mwyn annog pobl i roi cynnig ar fod yn ddarpar fabwysiadwyr – ni ddylem fyth anghofio hyn. Mae darparu cynefin llawn cariad yn brofiad hynod werthfawr sydd yn newid bywydau.

“Mae pob mabwysiadwr yn unigryw, mae ganddynt eu sefyllfa deuluol a phrofiadau bywyd eu hunain, gallent gynnig cymorth a sefydlogrwydd ar gyfer plentyn , a dylent gael eu hasesu ar eu teilyngdod yn unig.  

“Mae’n rhaid tyfu oddi ar ein llwyddiannau. Mae’n rhaid taclo unrhyw oedi diangen a dwi’n gwrthod gadael i blant aros yn y system gofal. Hyd y gwela’ i, mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gatalyst ar gyfer newid. Fe ddylai’r model cenedlaethol hybu mabwysiadu, cynyddu’r nifer o fabwysiadwyr tra’n cynnig gwasanaeth mabwysiadu o’r radd flaenaf."

Mae prosiect ffotograffiaeth ddigidol yn cael ei ddadorchuddio yn y Senedd rhwng 12.00 ac 1.30 yp ar y 6ed o Dachwedd 2013.  Mae’r prosiect yn arddangos casgliad o luniau o sawl rhiant mabwysiedig a’r plant, pob un gyda chefndiroedd gwbl wahanol, a bydd casgliad o straeon hefyd ar gael i’w darllenarhttp://www.nationaladoptionweek.org.uk/adoption/stories/adopting-attitudes.

Am ragor o fanylion, ffoniwch linell holi Adoption UK ar 0844 848 7900 neu ebostiwchwales@adoptionuk.org.uk

Rhannu |