Mwy o Newyddion
Gwisgo siwmper i wneud gwahaniaeth
Ar ddydd Gwener, Rhagfyr 13eg bydd Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant yn ei ôl, ac mae llond gwlad o enwogion yn ei gefnogi – gan gynnwys Alex Jones.
Mae Achub y Plant yn galw ar bobl Cymru i wneud gwahanieth i bobl ar draws y byd drwy gymryd rhan yn y traddodiad o wisgo siwmper Nadolig liwgar a chyfrannu £1 am gael gwneud.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan yr elusen i barhau a’i gwaith o weithio gyda phlant ar draws y byd. Ac mae ‘na selebs eisioes wedi rhoi eu cefnogaeth i’r Diwrnod Siwmper Nadolig, gan wisgo’u hoff siwmper ar gyfer llun.
Yn eu plith mae’r gyflwynwraig Alex Jones, y canwr Al Lewis, y band Swnami, yr awdures Bethan Gwanas, a’r DJs Geraint Lloyd a Dyl Mei.
Gwisgwch eich siwmper ar Ddiwrnod Siwmper Nadolig a chyfrannwch £1 i Achub y Plant fan hyn www.christmasjumperday.org.uk
Gallwch brynu eich siwmper o siop John Lewis, partner manwerthu swyddogol Diwrnod Siwmper Nadolig. Am bob un o siwmperi Achub y Plant fydd yn cael ei gwerthu, bydd yr elusen yn derbyn £25.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i www.christmasjumperday.org.uk
Facebook - www.facebook.com/ChristmasJumperDay
Twitter - @savechildrencym #diwrnodsiwmperdolig
Hefyd yn cefnogi’r ymgyrch ym Mhrydain mae Myleene Klass, Julie Walters, Lorraine Kelly, Gok Wan, Rochelle Humes, Erin O’Connor, Lauren Laverne, Bruno Tonioli, Ashleigh & Pudsey, Arlene Philips, Nate James, Simon Rimmer, Jay Rayner, Daniel Roche, Kate Thornton, Jack Topping, Natasha Kaplinsky a Dom Joly.
Alex Jones
Beth yw dy hoff atgof o’r Nadolig?
“Fy hoff atgof o’r Nadolig yw cael bwrdd harddu yn anrheg. O’dd pawb arall ishe roller skates a beiciau a doliau, ac na’i gyd o’n i ishe oedd bwrdd harddu a sychwr gwallt. Mi gyrhaeddodd yn y bore, ac fel eisteddes ar ei bwys e drwy’r dydd. Nes i hyd yn oed fyta fy nghinio Nadolig arno fe.”
Beth yw’ch hoff gân Nadolig?
“Fy hoff gân Nadolig ydy un Mariah Carey’s ‘All I want for Christmas is you.’ Er, mi wnes i ei ganu mewn carioci unwaith – byth eto! Rhy uchel o lawer!!”
Beth yw’ch hoff fwyd Nadolig?
“Fy hoff fwyd Nadolig ydy panas wedi eu rhostio siwr o fod. Fel arfer wy’n cael tua tri, ond dim mwy na hynny.”
Beth yw rhan orau tymor y Nadolig i ti?
“Mae’r tymor Nadolig yn dechre i fi ym mis Hydref – y diwrnod mae’r clociau’n mynd nôl. Mae’r sherri’n dod mas, a’r mins peis ‘fyd, ac mae’n Nadolig am y deufis a hanner nesa”.
Beth wyt ti’n ei obeithio y daw Sion Corn i ti eleni?
“Wy’n gobeithio y daw Sion Corn a dyddiadur i fi, wastad yn handi. A lot o beth bach eraill. A bod yn onest, sai’n ffysi iawn, wy’n hapus ‘da unrhyw beth. Ma unrhyw beth yn fonws yr oed ‘ma!”