Mwy o Newyddion
Ken Skates yn canmol cynllun prentisiaeth dylanwadol un o westai Abertawe
Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, wedi canmol Gwesty Mercure Abertawe am ei raglen brentisiaeth rhagorol.
Yn ystod ei ymweliad â'r gwesty heddiw, cafodd y Dirprwy Weinidog gyfle i gyfarfod â phrentisiaid ac aelodau uwch o staff i ddysgu mwy am sut mae'r gwesty'n buddsoddi yn nyfodol ei weithlu.
Sefydlodd Mercure Abertawe ei raglen brentisiaeth i greu rhagor o gyfleoedd gyrfaol ac i ddangos ei ymrwymiad i staff presennol a staff newydd.
Mae'r cynllun yn helpu gweithwyr i ddysgu a datblygu o fewn eu rôl a datblygu sgiliau hanfodol sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn ogystal â sgiliau cymdeithasol – gan agor y drws i gyfleoedd gyrfaol o fewn y gwesty a'r diwydiant lletygarwch yn fwy cyffredinol.
Ar hyn o bryd mae gan y gwesty 5 prentis, 1 ar Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) a 4 prentis (Lefel 3) ac mae wedi recriwtio a hyfforddi 30 o unigolion dros y chwe blynedd ddiwethaf.
Mae'r prentisiaid yn gweithio ac yn cael eu hyfforddi mewn meysydd fel gwasanaeth i gwsmeriaid, coginio proffesiynol, goruchwylio ac arwain ym maes lletygarwch, gweinyddu busnes a gwasanaethau cegin.
Mae'r gwesty yn penodi mentor sy'n gweithio o fewn yr un maes busnes i bob prentis, ac mae'r mentoriaid eu hunain wedi cwblhau prentisiaeth.
Mae'r holl staff sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen brentisiaeth y gwesty wedi gwella eu cyfleoedd gyrfaol ac mae llawer o'r staff wedi cael dyrchafiad.
Wrth ymweld â'r gwesty heddiw, cafodd y Dirprwy Weinidog gyfarfod â Keisha Morgan, sydd wedi bod yn brentis gyda'r gwesty am y ddwy flynedd ddiwethaf, ar ôl iddi adael ysgol heb wybod beth yn union roedd hi am ei wneud.
Erbyn hyn mae Keisha yn gweithio'i ffordd at fod yn gogydd medrus, ac mae'n aelod gwerthfawr o'r tîm. Ar hyn o bryd mae'n gweithio tuag at NVQ lefel 3.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae cynifer o esiamplau o arferion da ledled Cymru o ran prentisiaethau.
“Mae Gwesty Mercure Abertawe wedi buddsoddi llawer o amser ac arian i sicrhau bod ei raglen brentisiaeth yn cael y gorau allan o'i staff newydd a'i staff presennol – gan agor y drws i gynifer o gyfleoedd gyrfaol ac ar gyfer cael dyrchafiad.
“Mae cyfradd llwyddo prentisiaethau yng Nghymru yn 2011/12, sef 85%, yn uwch nag erioed.
“Rydyn ni eisiau i ragor o gyflogwyr yng Nghymru fuddsoddi yn ein rhaglen brentisiaeth sy'n cael cymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru ei hun yn mynd i fuddsoddi £20 miliwn ychwanegol mewn prentisiaethau yn 2015-16 - newyddion gwych i'n pobl ifanc.
Dywedodd Ian Harding-Jones, Rheolwr Cyffredinol Gwesty Mercure Abertawe:
“Yn ogystal â buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o weithwyr cyflogedig, mae prentisiaethau yn gwneud synnwyr o safbwynt y busnes.
“Fel gwesty, ni sydd a’r trosiant isaf o ran staff o blith yr holl westai Mercure yn y DU. Ni hefyd gafodd y sgôr uchaf gan staff am y ddwy flynedd ddiwethaf yn yr arolwg staff blynyddol.
“Mae sicrhau gweithlu mor sefydlog ac ymroddgar yn dod â manteision enfawr i'n busnes ac nid cyd-ddigwyddiad yw'r canlyniadau hyn wrth inni weithio'n galed i helpu aelodau'r tîm drwy raglenni prentisiaeth sydd o fantais iddyn nhw ac, yn y pen draw, i’n cwsmeriaid.”
Llun: Ken Skates