Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2013

Bloc cysgu newydd gwerth £1m yn cael ei agor gan y Prif Weinidog

Dydd Iau, 7 Tachwedd am 2pm bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor bloc llety newydd gwerth £1m yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog.

Mae lle i 128 gysgu yn y bloc newydd, sy’n dod â chyfanswm gwlâu y Gwersyll i 520.  Mae’r bloc yn disodli yr hen gabanau cysgu pren, Hendre a Gelli, adeiladwyd ddechrau’r 80au.

Derbyniwyd £364,370 i ariannu’r prosiect drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  Yn dilyn system dendro, cafodd penseiri lleol, B3 o Aberystwyth eu dewis i reoli a chynllunio’r prosiect a chwmni W B Griffiths o Hwlffordd oedd y prif gontractwyr.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, "Mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn nwylo ein pobl ifanc, ac mae angen i ni sicrhau bod ganddynt ddigon o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith tu allan i'r ystafell ddosbarth fel eu bod nhw’n hyderus i'w defnyddio bob dydd.

"Mae'r canolfannau preswyl sydd gan yr Urdd ar draws Cymru yn cefnogi'r nod hwn, drwy ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau, cymdeithasu a mwynhau mewn amgylchedd gefnogol, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Rwy'n falch iawn bod Llangrannog, trwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi gallu ymestyn y gwersyll, gan alluogi mwy o bobl ifanc i fwynhau defnyddio'r iaith mewn amgylchedd hamddenol a modern."

Ychwanegodd Steff Jenkins, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Prif Weinidog am ddod draw i agor ein bloc newydd fydd yn adnodd gwych i’r gwersyll.  Ymysg yr ystafelloedd, mae 8 ystafell gyda dau wely sengl, fydd yn ein galluogi i ddenu cwsmeriaid hŷn.

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu defnyddio cwmnïau a chontractwyr lleol i wneud y gwaith, gan fuddsoddi canran helaeth o gost y prosiect yn y gymuned leol.  Mae’r cynllun wedi bod yn hwb i’r economi leol, ac o ganlyniad iddo, rydym wedi creu swyddi newydd ac yn llwyddo i amddiffyn swyddi presennol.”

Rhannu |