Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2013

Prif Swyddog Deintyddol Cymru yn cefnogi Mis Gweithredu Canser y Geg

Mis Tachwedd fydd Mis Gweithredu Canser y Geg ac mae David Thomas, Prif Swyddog Deintyddol Cymru, yn atgoffa pobl am yr angen i gymryd cyfrifoldeb am iechyd eu ceg eu hunain.

Mae iechyd y geg yn rhan annatod o iechyd cyffredinol ond nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod cysylltiad rhwng y ddau. Mae modd cadw’r geg yn iach drwy frwsio dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid a threfnu apwyntiadau rheolaidd gyda’r deintydd. Fodd bynnag, gall rhai ffyrdd o fyw gael effaith andwyol ar yr arferion da hyn.

Mae smygu, goryfed a deiet gwael yn ffactorau risg pwysig a all arwain at lawer o broblemau iechyd fel clefyd y galon a diabetes, yn ogystal â chanser y geg.

Gall canser y geg effeithio ar bobl o bob oedran, gyda mwy na 6,500 o bobl yn dioddef o ganser y geg o’r newydd bob blwyddyn yn y DU, sy’n cyfateb â 18 o achosion newydd bob dydd.

Dywedodd David Thomas, Prif Swyddog Deintyddol Cymru: "Rwy’n llwyr gefnogi Mis Gweithredu Canser y Geg ac rwy’ wedi ysgrifennu at bob deintydd yng Nghymru yn eu hannog i gefnogi’r ymgyrch ym mis Tachwedd a chodi ymwybyddiaeth yn fwy cyffredinol.

"Mae pobl sy’n yfed ac yn smygu’n drwm 35 gwaith yn fwy tebygol o gael canser y geg gan fod alcohol yn helpu tobaco i gael ei amsugno yn y geg.

"Gall canfod cynnar helpu’n fawr ac rwy’n annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain.

"Mae hwn yn darged pwysig i ni ac yn rhan annatod o Gynllun Cenedlaethol ar gyfer Iechyd y Geg dros bum mlynedd a lansiwyd yn gynharach eleni."

I gael rhagor o wybodaeth am Fis Gweithredu Canser y Geg, ewch i www.mouthcancer.org/

Rhannu |