Mwy o Newyddion
Walk on Wales: taith gerdded elusennol yn croesi’r llinell derfyn yn y Senedd
Bydd taith gerdded elusennol 870 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn croesi’r llinell derfyn yn y Senedd ar 2 Tachwedd.
Trefnwyd y daith gan Walk on Wales, elusen a sefydlwyd gan ddau gyn-filwr o ryfel Ynysoedd Falkland, sef y Capten Jan Koops a’r Is-ringyll Dai Graham.
Mae 11 o dimau cyfnewid wedi cerdded ar hyd llwybr yr arfordir gan gario baton arian a gomisiynwyd yn arbennig ac arno enwau’r 50 o aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig a fu farw wrth wasanaethu eu gwlad ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Mae rhai aelodau o’r tîm wedi cerdded bob cam o’r llwybr, gan gynnwys Jan Koops, ac maent wedi codi mwy na £300,000 hyd yma.
Bydd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, yn croesawu’r criw wrth iddynt groesi’r llinell derfyn yn y Senedd. Dywedodd: "Mae hwn yn gyflawniad gwych gan bawb sydd wedi cymryd rhan.
"Mae’n anrhydedd, fel Dirprwy Lywydd, i’w croesawu yn ôl i risiau’r Senedd, lle cychwynnodd y daith ddeufis yn ôl.
"Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr aberth a wnaed gan y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’n bod yn darparu’r gofal a’r cymorth gorau i’r rhai sy’n dychwelyd o faes y gad, ynghyd â’u teuluoedd.
"Mae Walk on Wales yn gwneud gwaith gwych, ac ar ran pawb yn y Cynulliad, hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan yn y daith hon i godi arian."
Yn ymuno â’r Dirprwy Lywydd ar risiau’r Senedd, bydd cyn-bennaeth y staff amddiffyn, y Cadlywydd yr Arglwydd Guthrie o Craigiebank ac Esgob Llandaf, Dr Barry Morgan.
Caiff y cerddwyr eu croesawu yn ôl hefyd gan osgordd er anrhydedd o ail gwmni y Gwarchodlu Cymreig a Chôr Meibion Treorci. Byddant yn cael eu harwain i mewn gan fand o’r Gwarchodlu Cymreig a Sally Thorneloe a’i theulu. Sally yw gweddw yr Is-gyrnol Rupert Thorneloe, sef y swyddog Prydeinig uchaf ei radd iddo gael ei ladd ar faes y gad am fwy na chwarter canrif.
"Mae wedi bod yn daith arbennig iawn i ni gyd," meddai’r Capten Jan Koops.
"Mae’r gefnogaeth a roddwyd inni gan yr holl gymunedau rydym wedi teithio drwyddynt ar hyd y ffordd wedi bod yn anhygoel. Mae pobl wedi rhoi bwyd a diod inni i’n cadw ni i fynd ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.
"Byddaf i a thri arall wedi cwblhau’r llwybr 870 milltir yn ei gyfanrwydd. Mae’n deg dweud bod rhywbeth a ddechreuodd fel menter i godi arian wedi troi’n bererindod.
"Mae’n gwbl briodol, felly, ein bod yn dod â’n taith ryfeddol i ben yn ôl ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd."
Llun: David Melding AC