Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Hydref 2013

Cynyddu pwysigrwydd twristiaeth ffydd yng Nghymru

Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart wedi lansio Cynllun Gweithredu Croeso Cymru ar Dwristiaeth Ffydd heddiw yng Nghadeirlan Llanelwy.

Amcan y Cynllun Gweithredu yw codi’r nifer sy’n ymweld â’n haddoldai a safleoedd cysegredig a’n cael i feddwl sut y gallwn eu gwella fel atyniadau ar gyfer ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

Dywedodd y Gweinidog: “Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath ym Mhrydain sy’n rhoi sylw penodol i Dwristiaeth Ffydd.  Gwn fod mwy a mwy o ymwelwyr am weld ein hatyniadau hanesyddol a phrofi treftadaeth a diwylliant y fro y maen nhw’n ymweld â hi.  Ac mae’r strategaeth dwristiaeth newydd yn gweld treftadaeth a diwylliant Cymru fel cyfle i roi mantais iddi dros ei chystadleuwyr.  Mae addoldai’n rhan bwysig o’r dreftadaeth honno.

“Mae rhai o addoldai Cymru’n wirioneddol eiconig ac yn denu llawer o ymwelwyr bob blwyddyn.  Bydd y cynllun yn rhoi sylw hefyd i safleoedd heblaw’r mannau eiconig.  Prin fod yr un gymuned yng Nghymru heb ei chapel a’i heglwys a mawr fu eu dylanwad ar ein diwylliant, ein hiaith a’n ffordd o fyw. Ac mae gan demlau pob crefydd, safleoedd cysegredig a llwybrau pererinion i gyd eu lle.  Mae’r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd yn cynnig gweledigaeth ar gyfer manteisio’n llawn ar botensial Addoldai Cymru er lles yr economi dwristiaeth fel eu bod yn rhan annatod o’r profiad a roddir i’r ymwelydd.”

Meddai’r Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, Eglwys Llanelwy: “Rydym wrth ein boddau bod y cynllun gweithredu hwn ar Dwristiaeth Ffydd yn cael gweld golau dydd yng Nghadeirlan Llanelwy.

“Mae gennym fannau cysegredig ac addoldai hynafol iawn yn frith yn ein hesgobaeth sydd wedi denu pererinion ar hyd y cenedlaethau.  Mae’r fenter hon yn gyfle newydd i rannu’n treftadaeth Gristnogol gyfoethog â phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Mae ein haddoldai yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr.   Yn 2011, Cadeirlan Tyddewi oedd y 7fed atyniad mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn ystod 2012 fe wariodd ymwelwyr o’r DU £12 miliwn tra’n ymweld a safleoedd crefyddol yng Nghymru.

Prif amcanion y cynllun yw – denu mwy o ymwelwyr i addoldai a mannau cysegredig Cymru; gwella ansawdd cynnyrch Twristiaeth Ffydd yng Nghymru a phrofiadau ymwelwyr ag addoldai Cymru a chynyddu’r hyn a geir oddi wrth y rheini sy’n ymweld ag addoldai Cymru.

Y prif gamau i’w cymryd yn y tymor byr fydd:
1.      Datblygu deunydd i hyrwyddo addoldai ac ati ac integreiddio twristiaeth ffydd o fewn ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru

2.      Rhoi gwybodaeth am Dwristiaeth Ffydd ym mhecyn Naws am Le Ar-lein Croeso Cymru ar gyfer busnesau
3.      Datblygu Llwybr Cerdded y Pererin ar draws y De i Dyddewi.

Mae gweithgor wedi’i sefydlu i fynd â’r gwaith yn ei flaen a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ôl y lansiad. 

Rhannu |