Mwy o Newyddion
Cytundeb ar Gyflog Byw i dros 3,000 o staff Cyngor Abertawe
Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu cyflwyno Cyflog Byw i oddeutu 3,000 o staff â'r cyflogau isaf y mis nesaf.
Mae'n golygu na fydd unrhyw aelod o staff y cyngor yn cael ei dalu llai na £7.45 yr awr a chaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill y llynedd hefyd.
Meddai David Phillips, Arweinydd y Cyngor, "Bydd hyn yn rhoi tipyn o hwb i rai o'n staff â'r cyflogau isaf a chaiff ei dalu o fis Tachwedd."
Meddai, "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael â thlodi, a thrwy gynyddu incwm ein staff â'r cyflogau isaf, gallwn helpu i wella'u safonau byw.
"Mae'n staff â'r cyflogau isaf yn gwneud rhai o'r swyddi pwysicaf a mwyaf heriol yn y cyngor ac rydym yn credu y dylent gael cyflog teg am eu gwaith.
"Pwrpas hyn yw sicrhau fod pobl yn cael cyflog teg, ond rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn rhoi hwb i'r economi leol oherwydd bydd ychydig o arian ychwanegol gan bobl i'w wario mewn siopau a busnesau lleol."
Nifer o staff y cyngor â'r cyflogau isaf, yn draddodiadol y rhai sy'n gweithio ym maes arlwyo, glanhau a gofal, fydd ar eu hennill fwyaf.
Ond meddai'r Cyng. Phillips, "Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn trafodaethau gyda'r undebau ac mae'n enghraifft o sut rydym yn parhau i drafod telerau ac amodau'n staff gyda nhw."
Cytunodd y cyngor ar gyflwyno'r Cyflog Byw ym mis Chwefror eleni a disgwylir y bydd yn ychwanegu oddeutu £1m at fil cyflog yr awdurdod lleol.