Mwy o Newyddion
Galw ar Lywodraeth y DU i “weithredu’n ddi-oed” i glirio’r ffordd i Silk
Mae Jane Hutt y Gweinidog Cyllid wedi galw ar Lywodraeth y DU i glirio’r rhwystrau gwleidyddol sy’n achosi oedi o ran datganoli pwerau hanfodol i fenthyca ac amrywio trethi i Gymru, fel y gall Llywodraeth Cymru ddod â’r oedi ar yr M4 yn y de-ddwyrain i ben.
Daeth galwad y Gweinidog flwyddyn i’r diwrnod ers i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU daro bargen i ddiwygio’r ffordd y caiff Cymru ei hariannu.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i Lywodraeth y DU ddatganoli pwerau i fenthyca ac amrywio trethi yn unol ag argymhellion Comisiwn Silk, er mwyn gallu bwrw ymlaen â gwelliannau pwysig i’r seilwaith. Mae hyn yn cynnwys y bwriad i adeiladu Metro yn ne ddwyrain Cymru, a ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd.
Ymrwymodd Llywodraeth y DU i ymateb i argymhellion rhan gyntaf gwaith Comisiwn Silk yn y gwanwyn, ond gohiriwyd hynny sawl gwaith.
Dywedodd Jane Hutt:“Flwyddyn union yn ôl, deuthum i gytundeb â Llywodraeth y DU ar yr egwyddor o gael pwerau benthyca er mwyn buddsoddi mewn seilwaith. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i ddisgwyl i’r egwyddor honno gael ei gweithredu.
"Rwy’n disgwyl yn eiddgar am ymateb Llywodraeth y DU i gynigion Comisiwn Silk i ddatganoli’r pwerau hyn i Gymru, ynghyd â phwerau i amrywio nifer o drethi, gan gynnwys y dreth stamp.
“Nid datganoli er ei fwyn ei hun yw hyn. Mae’r Llywodraeth hon yn credu mewn ‘pwerau i bwrpas’ – ac mae’r rheswm dros gael y pwerau hyn yn syml iawn. Heb bwerau benthyca, ni chaiff ffordd liniaru’r M4 ei hadeiladu. Heb ffordd liniaru, bydd economi de Cymru yn dioddef.”
Yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis, dyrannodd Llywodraeth £40 miliwn pellach i wella Twnelau Bryn-glas. Gosod wyneb newydd a chwblhau mesurau hanfodol i wella diogelwch a chydnerthedd i leihau’r perygl o ddigwyddiadau, tân a damweiniau yw’r bwriad.
Ychwanegodd Jane Hutt: “Er ein bod wedi buddsoddi llawer yn yr M4 yn ardal Casnewydd ers 1999, mae arnom angen y pwerau hanfodol hyn i fenthyca ac amrywio trethi fel y gallwn fwrw ymlaen i adeiladu ffordd liniaru’r M4. Hwn fydd y prosiect seilwaith mwyaf ers datganoli.
“Ni all Llywodraeth Cymru fforddio’r prosiect hwn heb bwerau benthyca – yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU wedi torri 33% oddi ar ein cyllideb gyfalaf ers 2010.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’n ddi-oed i roi’r pwerau ariannol angenrheidiol i Gymru fel y gall fwrw ymlaen i wella ei seilwaith, gan hybu’r economi a gwneud Cymru’n wlad fwy cystadleuol a llewyrchus. Dyna yw dyhead pobl Cymru.”