Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Hydref 2013

Cyhoeddi adroddiad Y Gynhadledd Fawr

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones, wedi croesawu cyhoeddi canfyddiadau sgwrs genedlaethol ar ddyfodol y Gymraeg a gynhaliwyd dros yr haf. 

Roedd yr ymgynghoriad Iaith Fyw: cyfle i ddweud eich dweud, a ddaeth i ben gyda'r Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth, yn gyfle i bobl ledled Cymru, o bob oedran a gallu yn y Gymraeg, i roi eu barn ar yr iaith. 

Mae adroddiad sy'n rhoi amlinelliad o adborth cyfranogwyr bellach ar gael arlein, ac mae'n dangos bod pobl yng Nghymru yn teimlo bod polisïau Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg ar y trywydd iawn, ond bod angen gwneud mwy i sicrhau dyfodol yr iaith. 

Meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Roedd yr ymateb i'r sgwrs genedlaethol a gynhaliwyd ar y Gymraeg dros yr haf yn galonogol iawn ac yn dangos ymrwymiad pobl, a'u brwdfrydedd dros yr iaith. 

“Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf byddwn yn parhau i ystyried yn ofalus yr adborth a gawsom a'r materion sydd wedi'u codi gan bobl.  Byddwn hefyd yn edrych ar yr adolygiadau polisi sydd wedi'u nodi, neu sydd ar fin cael eu nodi. 

“Yr hyn sy'n amlwg o'r wybodaeth a gasglwyd gennym yw ein bod ar y trywydd iawn ond bod angen inni geisio magu hyder pobl i ddefnyddio'r iaith a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd.  

“Dyma rai o'r nifer o bethau rydyn ni'n eu hystyried wrth inni baratoi ein hymateb a byddaf yn gwneud datganiad ym mis Tachwedd i roi amlinelliad o'n camau nesaf." 

Rhai o'r prif feysydd o bryder a amlygwyd gan yr adroddiad oedd effaith mudo ar yr iaith a'r angen i ddeall y cysylltiad rhwng yr iaith a'r economi.  Roedd gwneud pobl yn fwy hyderus i siarad Cymraeg a newid ymddygiad pobl fel eu bod yn ei defnyddio mewn mwy o sefyllfaoedd, yn faterion eraill o bwys. 

Dywedodd pobl hefyd y dylid adeiladu ar lwyddiant y system addysg cyfrwng Cymraeg, y dylid marchnata gwerth yr iaith yn fwy effeithiol, a bod angen mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd pob dydd.  

Rhannu |