Mwy o Newyddion
Llywodraeth y DG yn bradychu Cymru eto
Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, ei bod yn holi Comisiwn Ewrop yn uniongyrchol ynglŷn â sut y gellir cynnwys Cymru yn y rhwydwaith craidd wedi i’r Comisiwn gyhoeddi map o flaenoriaethau isadeiledd trafnidiaeth a wnaeth hepgor Cymru’n llwyr.
Ar Hydref 17, cyhoeddodd Comisiwn Ewrop fap yn manylu’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn isadeiledd trafnidiaeth Ewrop. Mae’r map yn dangos naw prif ffordd neu goridor fydd yn ffurfio asgwrn cefn y rhwydwaith yn y dyfodol. Clustnodwyd cyllideb o €26 biliwn er mwyn ariannu’r rhwydwaith. Ond mae Cymru’n cael ei hepgor yn llwyr a dywed yr ASE Plaid Cymru fod yn rhaid ei chynnwys:
Meddai: "Camgymeriad oedd hi, y tro diwethaf a gafodd Cymru ei adael allan o fap yr UE. Nid camgymeriad mo hwn y tro yma, ond polisi bwriadol gan lywodraeth y DG. Byddaf yn trafod hwn gyda’r Comisiwn."
Mae Coridor Môr y Canoldir a Môr y Gogledd yn lledu drwy Loegr, ar draws i Iwerddon ac i’r Alban ond mae’n osgoi Cymru’n gyfan gwbl.
Mae rhaglen ariannu trafnidiaeth y Comisiwn, a elwir yn TEN-T, yn amlygu meysydd eraill o flaenoriaeth ar “rwydwaith craidd”. Er bod projectau ar y rhwydwaith graidd hefyd yn gymwys i gael eu hariannu drwy’r rhaglen, caiff projectau ar hyd y corridor y flaenoriaeth.
Bu Jill Evans ASE, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop, yn gweithio’n galed i gael gwell cysylltiadau gydag Ewrop a thrydaneiddio ar gyfer Cymru. Mae hi wedi mynd â’r mater yn uniongyrchol at Gomisiwn Ewrop er mwyn ei drafod. Mae’n glir, er bod Comisiwn Ewrop wedi dymuno gweld ymagwedd fwy eang tuag at y coridor yn y DG gan gynnwys gweld mwy o ffyrdd, fe wnaed y penderfyniad i’w gyfyngu gan lywodraeth y DG.
Wrth siarad heddiw, dywedodd Jill Evans ASE: "Mae hwn yn weithred arall o frad gan lywodraeth y DG yn erbyn Cymru. Mae’n warthus bod llywodraeth y DG wedi penderfynu osgoi Cymru’n llwyr wrth benderfynu ble y dylid gwario arian blaenoriaeth yr UE ar drafnidiaeth. Camgymeriad oedd hi, y tro diwethaf a gafodd Cymru ei gadael allan o fap yr UE. Nid camgymeriad ‘mo hi’r tro yma, ond polisi bwriadol gan lywodraeth y DG.
"Gwyddom fod cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn hanfodol er mwyn cryfhau ein heconomi. Roedd hwn yn gyfle i ni gael defnyddio arian yr UE er mwyn helpu ni i ddatblygu ein rhwydwaith ein hunain ond hefyd i gyfrannu tuag at rwydwaith trafnidiaeth Ewropeaidd gyffredinol.
"Mae cysylltiadau Cymru gydag Iwerddon yn bwysig iawn am resymau masnach, busnes a hamdden ac rydym yn awyddus i ddatblygu ein porthladdoedd, rheilffyrdd a heolydd. Mae hwn yn siom anferth.
"Penderfyniad oedd hwn a wnaed gan lywodraeth y DG ond rhaid gofyn cwestiynau difrifol ynglŷn â rôl llywodraeth Cymru yn hyn pan wnaed y penderfyniadau pwysig yma.
"Rhaid taw ein cam nesaf fydd i sicrhau bod ffyrdd allweddol yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn y rhwydwaith allweddol, sydd er eu bod yn eilradd i’r coridorau, yn gymwys o hyd i gael eu hariannu hefyd."