Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Hydref 2013

Galw am dreth cyngor 200% ar ail gartrefi

Bydd Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn pwyso am 200% o dreth gyngor ar ail gartrefi yng Ngwynedd er mwyn adeiladu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol.

Dengys gwaith ymchwil cychwynnol yng Ngwynedd, y gellid codi oddeutu £5 miliwn bob blwyddyn o'r cynllun i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy ar gyfer cymunedau lleol.

Mae Tîm Plaid Cymru, gan gynnwys Aelodau Cynulliad ac Aelodau San Steffan, wedi bod yn galw am fesurau treth lymach ar gyfer perchnogion ail gartrefi ers nifer o flynyddoedd

Fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y mater, bydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn pwyso am y cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer perchnogion ail-gartrefi, fel bod 100% o'r dreth ar bob eiddo yn cael ei ddyrannu i gronfa newydd, gaiff ei sefydlu yn benodol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion tai fforddiadwy yn y sir.

Bydd y gronfa yn cael ei chreu i gynorthwyo pobl leol sy’n awyddus i brynu i’r farchnad dai yn eu pentrefi lleol a’i hardaloedd gwledig.

Gwêl ardaloedd megis Abersoch, Pwllheli a Phorthmadog gynnydd enfawr yn y boblogaeth yn ystod cyfnodau gwyliau, ac mae angen ystyried y pwysau ariannol ychwanegol a roir ar wasanaethau lleol o ganlyniad i hyn.

Yn ogystal, mae rhai ail gartrefi, sy'n wag am nifer fawr o fisoedd mewn blwyddyn, yn ychwanegu at y diffyg tai sydd ar gael i bobl leol.

Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru John Wyn Williams sy'n arwain ar dai yng Ngwynedd: "Mae hwn yn fater y mae Plaid Cymru wedi bod yn edrych arno ers nifer o flynyddoedd.

"Mae’r ymgynghoriad ar bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol gynyddu'r dreth gyngor ar ail gartrefi yn dod i ben ar yr 28ain o Hydref.

"Rydyn ni’n annog cymunedau lleol yng Ngwynedd i gefnogi’r ymgyrch a arweinir gan Blaid Cymru, ac i gefnogi ein safiad, fel y gallwn geisio sicrhau bod mwy o dai lleol ar gael i bobl leol.”

Mae Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd , y Cynghorydd Dyfed Edwards wedi bod yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Plaid Cymru, Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol i gael y maen i’r wal ar y mater hwn.

Meddai:  "Yng Ngwynedd y mae'r ganran uchaf o ail gartrefi ledled Cymru a Lloegr. Yn 2010, gwnaed astudiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a oedd yn amcangyfrif fod 22,000 o dai yng Nghymru yn wag am fwy na chwe mis y flwyddyn.

"O'r cyfanswm yna, roedd 7,784 wedi eu cofrestru fel ail gartref yng Ngwynedd.

"Mae gormod o ail gartrefi yn gorwedd yn wag am gyfran helaeth o'r flwyddyn, gan greu adeiladau segur sy’n cyfrannu namyn dim i gymunedau, i’r economi leol na chynnig dim i werth cymdeithasol yr ardaloedd yma.

"Yn ogystal, mae rhai o'r tai yma’n atal y farchnad ac eithrio pobl ifanc sydd wedi eu geni a’i magu yn y cymunedau, rhag cael eu traed ar yr ystôl eiddo."

Ychwanegodd: “Mae angen brys am dai fforddiadwy yn ein cymunedau gwledig. Gyda lleihad mewn arian cyhoeddus gall polisi newydd fel hwn fod yn ffynhonnell allweddol i sicrhau bod tai ar gael i bobl mewn angen.

"Rydyn ni’n amcangyfrif y gall cynllun o'r fath greu incwm o tua £ 5miliwn y flwyddyn i’w ddefnyddio i adeiladu tua 50 o dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol bob flwyddyn.

“Mae polisi sy'n gosod trethi uwch ar y ganran o'r boblogaeth sydd â'r gallu ariannol i fod yn berchen ar fwy nag un tŷ, hefyd yn ffordd o geisio creu cymdeithas fwy cyfartal.

"Gyda chyflwyno polisi o'r fath, bydd yr arian treth ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn creu cyfleoedd ar gyfer y ganran uwch o'r boblogaeth sydd heb gartref o gwbl.

"Ar ben hynny ac yn anochel, mae canran uchel o ail gartrefi yng Ngwynedd yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg mewn rhai o'r cymunedau hyn . Mae hyn wedi ei amlygu yng nghanlyniadau’r cyfrifiad diweddar.

"Mae'r pwnc ymgynghoriad hwn yn hynod o bwysig, nid yn unig i ardaloedd yng Ngwynedd , ond i ardaloedd ledled Cymru. Rydyn ni’n annog pobl leol, cynghorau cymuned, sefydliadau a busnesau lleol i ymateb drwy edrych ar yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru."

Llun: Dyfed Edwards

Rhannu |