Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Hydref 2013

Gwobrau Dewi Sant – llai na thair wythnos ar ôl i enwebu

Gyda llai na thair wythnos ar ôl, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn galw ar bobl o bob cwr o Gymru i enwebu rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau eithriadol. 

Mae Gwobrau Dewi Sant yn gynllun unigryw i Gymru, ac yn cydnabod llwyddiannau pob math o bobl, beth bynnag eu cefndir neu broffesiwn.  Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 5 Tachwedd 2013.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Gyda llai na thair wythnos ar ôl o'r cyfnod enwebu ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn, rwy'n annog pawb sy'n meddwl eu bod yn adnabod rhywun sy'n haeddu un o'r gwobrau hyn i fynd ati i enwebu.  Mae ceisiadau eisoes wedi bod yn cyrraedd yn gyson, ond 'dw i ddim am weld unrhyw un yn colli'r cyfle unigryw hwn i enwebu rhywun ddylai gael cydnabyddiaeth yn eu barn nhw.

"Mae'r rhan fwyaf ohonom ni, ar ryw adeg yn ein bywydau, wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod pobl sy'n gweithio'n ddiflino dros eraill ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd yng Nghymru, heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl. Dyma'n cyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad. Rwy'n annog pobl i lenwi'r ffurflen ac enwebu unrhyw un sy'n haeddu cydnabyddiaeth, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio."

Bydd y Gwobrau blynyddol yn anrhydeddu pobl sy'n gwneud pethau eithriadol, gan ysbrydoli eraill a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl Cymru.

Gellir enwebu unrhyw un dan wyth categori - dewrder; dinasyddiaeth; diwylliant; menter; arloesedd a thechnoleg; chwaraeon; rhyngwladol a pherson ifanc.

Hefyd mae nawfed gwobr, Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru. Nid oes modd enwebu pobl ar gyfer y wobr hon, a'r Prif Weinidog ei hun fydd yn dewis yr enillydd.

Gellir enwebu pobl drwy lenwi ffurflen ar-lein neu lawrlwytho templed oddi ar y wefan, www.gwobraudewisant.org.uk.

Rhannu |